Galeri Caernarfon wedi gwneud colled o £225,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf

Galeri

Mae cyfrifon diweddaraf canolfan gelfyddydol Galeri yng Nghaernafon yn dangos fod y cwmni wedi gwneud colled ariannol o dros £225,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Mae hynny'n cymharu â cholled o £38,963 yn y flwyddyn cyn hynny.

Yn ôl y cyfrifon, y prif reswm am y golled oedd costau staff uwch, ac roedd angen gwario "swm sylweddol" i sicrhau bod Galeri yn parhau i gydymffurfio'n llawn o ran iechyd a diogelwch.

Roedd gwariant wedi cynyddu'n sylweddol o achos "gofynion gweithredol" yr adeilad.

Roedd "gwiriadau statudol, gweithrediadau'r adeilad, a rhwymedigaethau landlord a les" hefyd wedi ychwanegu at y colledion.

Roedd y gwariant yma'n un fyddai'n "gofyn am fuddsoddiad parhaus yn ystod y flwyddyn ganlynol hefyd".

Mewn ymateb i Newyddion S4C, dywedodd Galeri Caernarfon nad oedd y cyfrifon yn dangos diffygion ariannol o £225,000, "ond yn hytrach fuddsoddi bwriadol yn ystod y flwyddyn ariannol dan sylw".

Dywedodd y cwmni mewn datganiad: "Mae £1.154m yn parhau ym mantolen y cwmni, a chyfanswm uchel o hwnnw wedi ei neilltuo’n benodol i ddiogelu sefydlogrwydd ariannol a pharhad gweithredol y sefydliad, yn unol â’n polisi wrthgefn.

"Nid yw’r cyfrifon yn adlewyrchu diffyg arian, na her cynaliadwyedd i'r cwmni."

Costau cynnal yr adeilad

Mae'r cyfrifon diweddaraf yn dweud fod adeilad Galeri Caernarfon ei hun yn golygu "costau cyffredinol uchel iawn, yn ogystal â gwariant angenrheidiol i ddal i fyny â gwaith a oedd yn anochel yn ystod y flwyddyn.

"Cynyddodd costau cyffredinol mewn sawl maes, gan gynnwys cyfleustodau, yswiriant, ac atgyweiriadau, gan adlewyrchu pwysau chwyddiant a'r costau sy'n gysylltiedig â chynnal portffolio eiddo mawr ac amrywiol."

Daeth Galeri Caernarfon Cyf, oedd yn cael ei adnabod yn wreiddiol fel Cwmni Tref Caernarfon Cyf, i fodolaeth yn 1992. 

Cafodd y ganolfan ei hadeiladu yn Noc Fictoria yn 2005, a'i hymestyn yn 2018.

Mae'r ganolfan yn croesawu 70,000 o bobl drwy ei drysau'n flynyddol ar gyfer digwyddiadau celfyddydol, cyngherddau ac i'w sinema.

'Heriau sylweddol'

Ym mis Awst, fe wnaeth Galeri hysbysebu tendr am astudiaeth ddichonoldeb ('feasibility study') gyda'r bwriad o lywio ailddatblygiad y ganolfan i'r dyfodol.

Yn yr hysbyseb hwnnw, roedd cyfeiriad at broblemau sydd yn bodoli gyda'r adeilad, gyda rheolwyr y ganolfan yn dweud fod yr "adeilad bellach yn cyflwyno heriau sylweddol".

Roedd yr heriau hyn yn cynnwys defnydd uchel o garbon, seilwaith sy'n heneiddio, ac "aneffeithlonrwydd gweithredol" oedd yn arwain at gyfyngiadau ar dwf.

Mae Galeri wedi llwyddo i sicrhau cyllid cyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf meddai'r cyfrifon diweddaraf, a hynny "i fynd i'r afael â'r costau cyffredinol uchel a'r gofynion strwythurol sy'n gysylltiedig â'r adeilad."

Yn ôl y cyfrifon, roedd costau staff am y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2026 yn £1,039,734 o gymharu gyda £897,298 am y flwyddyn flaenorol.

Cynnydd

Ond roedd yna hefyd ffigurau calonogol yn y cyfrifon diweddaraf, er y golled ariannol o £225,725.

Roedd cynnydd mewn trosiant ('turnover') yn ystod y flwyddyn, oedd wedi codi i £2,001,564 (2025: £1,886,264).

Roedd hyn yn "adlewyrchu momentwm parhaus ar draws gweithgareddau masnachol a diwylliannol Galeri", gan gynrychioli cynnydd o 6% o flwyddyn i flwyddyn.

Roedd cynnydd hefyd mewn incwm masnachol, gyda "thwf sylweddol yn yr incwm o'r caffi a'r bar, a gododd o £279,043 і £403,970, gan adlewyrchu mwy o ymwelwyr yn ogystal ag effeithlonrwydd gweithredol gwell." 

"Cynyddodd incwm y sinema ychydig hefyd i £254,094 (2025: £249,935), ac roedd hyn yn "dangos bod cynulleidfaoedd yn parhau i ddychwelyd, a llwyddiant parhaus y prosiect i ychwanegu dwy sgrin, a gwblhawyd yn 2018."

'Buddsoddiad bwriadol'

Dywedodd Galeri wrth Newyddion S4C fod y cyfrifon diweddaraf yn adlewyrchu "buddsoddiad bwriadol a hynny o sefyllfa ariannol gref, gan adlewyrchu penderfyniad bwriadol y Bwrdd a'r tîm gweithredol i fuddsoddi yn ein busnes, ein pobl, ein systemau ac ein hasedau, er mwyn sicrhau llwyddiant hir dymor." 

"Nid yw hyn yn golygu nad oes heriau i'w hwynebu. Mae cost ynni, cost llafur a chyfraniadau uwch yswiriant gwladol yn ystod y flwyddyn hon, yn ogystal â chaffael bwyd yn parhau i roi pwysau ar y sector, ynghyd â'r angen i sicrhau profiad cyson o ansawdd uchel y mae ein cynulleidfaoedd a'n cwsmeriaid yn ei haeddu. 

"Fodd bynnag, drwy gynllunio gofalus a gwaith caled y tîm, rydym yn gweld budd pendant o'r buddsoddiadau a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda'r gwelliannau hynny bellach yn cyfrannu’n uniongyrchol at gryfder a chynaliadwyedd y busnes."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.