Lynne Neagle: 'Llafur yn gyfrifol am y cynnydd wrth ymateb i adroddiad Neil Foden'

Newyddion S4C
Lynne Neagle

Mae'r cyn-Ysgrifennydd Addysg wedi honni mai Llafur sy'n gyfrifol am y gwaith sydd wedi'i gwblhau gan y llywodraeth wrth ymateb i adroddiad wedi troseddau'r pedoffeil Neil Foden.

Fe alwodd yr Aelod Senedd Lynne Neagle am fwy o frys gan Lywodraeth Plaid Cymru wrth ymateb i argymhellion adroddiad 'Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder' a gyhoeddwyd deuddeg mis yn ôl.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae dewrder y goroeswyr yn "parhau wrth galon eu hymateb" ac maen nhw yn "ymroddedig i yrru newidiadau sydd yn gynhwysfawr ac yn hirhoedlog".

Ddydd Llun, fe ddatgelodd Newyddion S4C mai dim ond tri o'r 13 argymhelliad perthnasol i Lywodraeth Cymru yn deillio o adroddiad 'Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder' sydd wedi'u cwblhau.

Gwrthodwyd sawl cais gan y rhaglen i gyfweld â'r Gweinidog Addysg am eu gwaith wrth ymateb i'r adroddiad.

Nos Lun, ar ôl gwahodd newyddiadurwr yn hyrwyddo gwaith y llywodraeth ar ymateb i gomisiwn cymunedau Cymraeg, cytunodd Anna Brychan i drafod y gwaith yna hefyd.
 
Dywedodd bod ymateb i argymhellion 'Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder' yn "fater pwysig ofnadwy" iddi hi yn bersonol a'i fod "wastad yn mynd i fod yn flaenoriaeth i'r llywodraeth".
 

Mynnodd bod "proses i fynd drwyodd" cyn cyflawni'r argymhellion, gan wadu pryder gan Gomisiynydd Plant Cymru bod oedi wedi bod wrth weithredu'r argymhellion.

Er iddi ateb rhai cwestiynau, fe orffennodd y cyfweliad yn ddisymwth, gan gerdded i ffwrdd heb esbonio pam bod tri chais blaenorol am gyfweliad wedi eu gwrthod.

'Poeni'n fawr am y diffyg brys'

Yn ei chyfweliad cyntaf ers gadael y llywodraeth, dywedodd y cyn-Ysgrifennydd Addysg Llafur, Lynne Neagle, ddydd Mawrth ei bod hi'n "poeni'n fawr am y diffyg brys wrth ymateb".

"O ran y tri argymhelliad sydd wedi'u cwblhau, digwyddodd rheiny dan y Llywodraeth Lafur mewn gwirionedd," meddai.

Honnodd hefyd bod oedi wedi bod i amserlenni gweithredu gwelliannau ers ei chyfnod hi yn y Llywodraeth.
 
"Beth dwi hefyd yn poeni'n fawr yn ei gylch yw'r amserlenni sydd wedi'u gosod ar gyfer yr holl gorff o waith sydd mor bwysig," meddai. 
 
"Dyw siarad am ymgynghori ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf ddim yn ddigon da."
Image
Neil Foden
Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf 2024 ar ôl camdrin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd

Mae'r llywodraeth wedi cadarnhau wrth Newyddion S4C y byddan nhw'n ymgynghori ar rai o'r argymhellion ym mis Ebrill 2027.

Dywedodd Lynne Neagle nad oedd hynny yn wir yn ei chyfnod hi fel Ysgrifennydd Addysg.

Dywedodd hefyd bod rhai darnau eraill o waith nawr yn digwydd yn hwyrach nag oedd hi'n ei ddisgwyl.

Mewn datganiad newydd ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gwrthbrofi unrhyw awgrym bod amserlenni wedi oedi" gan ddweud eu bod yn "gweithio ar waith sydd eisoes wedi ei wneud".

Maen nhw'n mynnu nad oes unrhyw oedi wedi bod nag unrhyw derfynau amser wedi'u methu.

"Rydyn ni'n parhau i gynnal momentwm," meddai'r llywodraeth.
 
"Mae tri argymhelliad wedi eu cwblhau, gyda gwaith mawr yn cael ei wneud ar yr argymhellion eraill.
 
"Mae sawl un yn golygu gwaith cenedlaethol a newid canllawiau, arferion a threfniadau, a'r ffordd orau o gyflawni hynny yw trwy ymgynghori. 
 
"Mae gofyn am farn rhyng-ddeiliaid yn cymryd amser, ond mae ein ffocws ar greu gwelliannau hirhoedlog ar draws Cymru, nid marcio gweithredoedd wedi eu cyflawni yn unig."
 
Dywedon nhw hefyd byddai'r Gweinidog Addysg yn gwneud datganiad ym mis Rhagfyr, wedi canfyddiadau dros dro ail ran yr Adolygiad Llywodraethu Diogelu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.