Enwi David Walliams fel 'y dyn enwog' oedd yn ceisio gwaharddiad cyfreithiol i atal cyhoeddi honiadau amdano

David Walliams

Mae modd cyhoeddi mai enw'r dyn enwog sydd wedi methu â sicrhau gwaharddeb gan yr Uchel Lys i atal adrodd ar honiadau yn ei erbyn yw David Walliams.

Cymerodd Walliams, 55 oed, gamau cyfreithiol yn erbyn ITN a Guardian News and Media, cyhoeddwr The Guardian, cyn i'r ddau sefydliad adrodd am honiadau yn ei erbyn, gan gynnwys camymddwyn rhywiol honedig a gweithgaredd troseddol posibl.

Dywedodd cyfreithwyr ITN a'r Guardian wrth yr Uchel Lys yn Llundain yn flaenorol fod yr honiadau'n ymwneud â "chamddefnyddio pŵer a statws" Walliams i gysylltu â menywod ifanc a cheisio cymryd rhan mewn "gweithgareddau rhywiol amhriodol ac ecsbloetiol".

Roedd Walliams wedi gwadu'r honiadau a cheisiodd waharddeb i atal cyhoeddi'r wybodaeth oherwydd y risg y byddai'n ei gymryd, ar ôl dwy ymgais flaenorol, i gyflawni hunanladdiad.

Cafodd yr awdur yr hawl i aros yn ddienw yn ystod yr achos cyfreithiol.

Ond fe gafodd yr hawl hwn ei ddiddymu ar ôl i’w gais am orchymyn llys gael ei wrthod, ac ar ôl i GNM ac ITN gyhoeddi eu hymchwiliad ddydd Mawrth.

Ymchwiliad

Mae ymchwiliad ar y cyd gan ITV News a The Guardian dros gyfnod o dair blynedd yn datgelu nifer o honiadau o gamymddwyn rhywiol yn erbyn Walliams sy'n dyddio yn ôl i 2003.

Ymysg y rhain mae un ddynes a ddisgrifiodd ei phrofiad gyda Walliams, pan oedd hi'n 15 oed, fel "ymosodiad rhywiol".

Yn ôl yr ymchwiliad, mae nifer o fenywod eraill wedi cyhuddo'r seren teledu a'r awdur o'u "meithrin" ('grooming') pan oeddent yn eu harddegau.

Yn ôl ITV News, roedd un ddynes wedi honni i Walliams ddechrau cysylltu gyda hi pan oedd hi'n 15 oed ar ôl iddynt gyfarfod mewn digwyddiad i gefnogwyr cyfres 'Little Britain', gan  ddechrau perthynas rywiol gyda hi pan oedd hi'n 17 oed.

Mae Walliams hefyd yn cael ei gyhuddo o ymddygiad amhriodol ac aflonyddu rhywiol yn ystod ei gyfnod ar 'Britain’s Got Talent' ac yn ei waith fel awdur gyda'r cyhoeddwr HarperCollins.

Gwadu

Mae David Walliams wedi gwadu camddefnyddio ei rym fel dyn enwog gyda menywod, ond dywedodd ei fod yn sylweddoli ei fod wedi “ymddwyn yn ddi-feddwl”.

Mewn datganiad i’r Guardian ac ITV News, dywedodd: “Wrth edrych yn ôl, rwy’n sylweddoli fy mod, ar adegau, wedi ymddwyn yn ddi-feddwl tuag at bobl eraill yr oedd gennyf berthnasoedd rhywiol achlysurol â hwy… 

"Rwy’n sylweddoli na wnes i bob amser ystyried teimladau pobl yn iawn. Mae hynny’n rhywbeth rwy’n ei ddifaru.

“Ac er bod anghydbwysedd pŵer yn anochel pan fydd un ochr yn enwog, mae camddefnyddio’r pŵer hwnnw yn rhywbeth hollol wahanol, ac nid wyf erioed wedi gwneud hynny…

“Nid ysglyfaethwr rhywiol ydw i… Nid wyf wedi torri’r gyfraith… Rwyf wedi torri fy nghalon bod rhai o’r menywod y gwnes i gyfarfod â nhw rhwng 10 ac 20 mlynedd yn ôl bellach wedi mynegi eu bod wedi brifo neu’n teimlo dicter tuag ataf.”

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.