Rhybudd y gallai cau ysgolion Sir Gâr fygwth dyfodol cylchoedd meithrin
Mae dau sefydliad gofal plant cenedlaethol wedi rhybuddio y gallai cynlluniau i gau pedair ysgol gynradd Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin fygwth dyfodol cylchoedd meithrin a darpariaeth gofal plant Cymraeg yn yr ardal.
Mae Mudiad Meithrin a Blynyddoedd Cynnar Cymru wedi mynegi pryderon am effaith bosibl y cynigion ar blant, teuluoedd a staff, mewn llythyrau at ymgyrchwyr yng Nghwm Gwendraeth.
Daw hyn wrth i Gyngor Sir Caerfyrddin baratoi i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i gau tair ysgol yng Nghwm Gwendraeth - Ysgol Bancffosfelen, Ysgol Pontiets, Ysgol Carwe ac Ysgol Blaenau, ger Llandybie.
Mae Cabinet y cyngor eisoes wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ffurfiol, ond nid oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud ynghylch cau'r ysgolion.
'Goblygiadau uniongyrchol'
Mewn llythyr at yr ymgyrchwyr, dywedodd Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Dr Catrin Edwards, na ddylid ystyried darpariaeth ysgolion a gofal plant ar wahân:
"Mae cylchoedd a darpariaeth gofal plant yn rhan hanfodol o seilwaith ieithyddol ein cymunedau... yn creu amgylcheddau sy’n cefnogi teuluoedd i ddefnyddio a throsglwyddo’r Gymraeg yn y cartref ac yn y gymuned.
"Dylai unrhyw asesiad o gynigion ynghylch trefniadaeth ysgolion gynnwys ystyriaeth benodol o’u heffaith ar gynaliadwyedd Cylchoedd Meithrin, ac felly’r iaith Gymraeg."
'Bygwth darpariaeth gofal plant'
Mae Prif Weithredwr Blynyddoedd Cynnar Cymru, Dave Goodger, hefyd wedi codi pryderon am effaith y cynigion ar ddarparwyr gofal plant lleol.
Cyfeiriodd at Gylch Meithrin Bancffosfelen, sydd wedi darparu gofal plant yn yr ardal ers 50 mlynedd ac sydd ar safle'r ysgol gynradd.
Yn ôl Mr Goodger, mae cau ysgolion yn gallu bygwth darpariaeth gofal plant, yn enwedig pan nad oes adeiladau addas eraill ar gael neu pan fo rhestrau aros mewn cylchoedd cyfagos.
"Ym mron pob enghraifft, nid yw'r awdurdod lleol yn cynnig unrhyw gymorth i'r darparwyr i staffio amseroedd pontio, darparu trafnidiaeth, a sicrhau bod gan hyn fodel busnes cynaliadwy," meddai.
"Mae cynyddu’r ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg yn un o uchelgeisiau Llywodraeth Cymru. Mae’n hanfodol felly bod cynigion i gau ysgolion yn ystyried yr uchelgais hon a’r angen am ddull gweithredu cydgysylltiedig er mwyn cyflawni polisïau’r Llywodraeth.
"Mae’n gwbl ddealladwy bod Cylch Meithrin Bancffosfelen yn bryderus nad yw’r penderfyniadau sy’n cael eu hystyried gan Bwyllgor Addysg a Chyngor Sir Gaerfyrddin yn rhoi ystyriaeth ddigonol i amcanion Llywodraeth Cymru o ran ehangu gofal plant a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg."
Ychwanegodd Mr Goodger: "Rydym yn annog pawb sy’n ymwneud â’r penderfyniadau i ystyried yn llawn yr effaith ar ddarparwyr gofal plant yn y cymunedau dan sylw, a sicrhau nad yw unrhyw benderfyniad yn arwain yn anfwriadol at gau darparwr cymunedol llwyddiannus."
Pryderon llywodraethwyr
Mae cadeiryddion llywodraethwyr y pedair ysgol wedi galw am ailystyried y cynigion gan y cyngor sir i'w cau.
Dywedodd Andrew Barlow, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Bancffosfelen, y byddai cau'r ysgol yn codi cwestiynau mawr am ddyfodol cylch meithrin y pentref.
"Mae’r bygythiad yma i fan cychwyn addysg Gymraeg, yn un o gadarnleoedd y Gymraeg, yn wallgof o fewn cyd-destun cenedlaethol lle rydym wedi ymrwymo i greu miliwn o siaradwyr," meddai.
Dywedodd Cadeirydd Llywodraethwyr Ffederasiwn Carwe, Gwynfryn a Phont-henri, Tudur Jones, fod perygl y byddai teuluoedd yn dewis gofal plant Saesneg pe bai'n rhaid iddynt deithio ymhellach i gael mynediad at ddarpariaeth.
Yn ôl Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Blaenau, Peter Roberts, fe gaeodd cylch meithrin yr ysgol ym mis Gorffennaf 2025, ac mae'n honni nad yw'r cyngor wedi rhoi digon o gefnogaeth i sefydlu darpariaeth amgen.
Mae Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Pontiets, Elin Cullen, wedi ailadrodd galwadau am foratoriwm cenedlaethol ar gau ysgolion Cymraeg tra bo argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn cael eu gweithredu.
Beth yw ymateb y cyngor?
Wrth ymateb i sylwadau'r Mudiad Meithrin a Blynyddoedd Cynnar Cymru, dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin: "Mae'r Cyngor yn cydnabod yn llawn bwysigrwydd gofal plant a darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg hygyrch, o safon uchel, yn ein cymunedau.
"Mae effaith bosibl y cynigion ar y Cylch Meithrin a darpariaeth blynyddoedd cynnar bresennol arall wedi'i nodi yn y dogfennau ymgynghori, a chaiff sylw wrth ystyried y cynigion.
"Lle gallai cynnig effeithio ar y ddarpariaeth bresennol, bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r darparwyr a'r partneriaid perthnasol i edrych ar drefniadau amgen priodol, er mwyn cadw mynediad at ofal plant a chyfleoedd blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg sy'n gynaliadwy."
Ar 2 Tachwedd, cytunodd Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin i symud ymlaen ag ymgynghoriad ffurfiol ar ddyfodol y pedair ysgol.
Mewn cyfweliad diweddar gyda Newyddion S4C, dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Anna Brychan, nad oedd cynlluniau i gyflwyno moratoriwm cenedlaethol ar gau ysgolion Cymraeg, gan bwysleisio mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am drefniadaeth ysgolion.
Mae'r ymgynghoriad ar ddyfodol y pedair ysgol i fod i ddechrau ar 10 Tachwedd a pharhau tan 22 Rhagfyr.
Nid oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud ynghylch dyfodol yr ysgolion na'r cylchoedd meithrin cysylltiedig.
