Neil Foden: 'Siom' bod llai na chwarter yr argymhellion i Lywodraeth Cymru wedi'u cwblhau

Newyddion S4C
Rocio Cifuentes

Mae'r Comisiynydd Plant wedi dweud ei bod hi'n "siomedig" gyda diffyg cyflymder Llywodraeth Cymru wrth gwblhau argymhellion adolygiad wedi troseddau'r pedoffeil a'r cyn-brifathro Neil Foden.

Flwyddyn ers cyhoeddi adroddiad 'Cryfder Trwy Ein Dewrder', mae Newyddion S4C wedi cael cadarnhad mai dim ond tri o 13 argymhelliad oedd wedi eu cyfeirio at Lywodraeth Bae Caerdydd sydd wedi eu cwblhau.

Dywedodd Anna Brychan, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg bod “dewrder y rhai gyfrannodd at 'Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder' a'i ganfyddiadau yn parhau i lywio gwaith i gryfhau trefniadau diogelu ym maes addysg."

Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd yn 2024 wedi iddo gael ei ddyfarnu'n euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

Fe ddywedodd y barnwr Rhys Rowlands fod Foden yn "fwli" a oedd yn "cuddio cyfrinach erchyll... obsesiwn gyda merched ifanc".

Ym mis Tachwedd y llynedd, cafodd adroddiad 'Cryfder Trwy Ein Dewrder' ei gyhoeddi. Yn ôl yr adroddiad hwnnw, methwyd dros 50 cyfle i rwystro Foden rhag troseddu.

Roedd 27 o argymhellion i wahanol asiantaethau yn rhan o'r adroddiad hwnnw.

Yr arbenigwr ar ddiogelu plant, Jan Pickles OBE, arweiniodd yr adolygiad. Dywedodd bod yr argymhellion wedi eu "dylunio er mwyn sicrhau y newid mwyaf arwyddocaol i ddiogelu mewn ysgolion Cymreig ers cenhedlaeth."

Ond flwyddyn yn ddiweddarach, mae Newyddion S4C wedi darganfod bod llai na chwarter o'r argymhellion i Lywodraeth Cymru wedi eu cwblhau. Cadarnhaodd y llywodraeth hefyd y bydd ymgynghori ar rai argymhellion yn dechrau ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Image
Neil Foden

Dywedodd y Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes, ei bod yn "siomedig" gyda chyflymder y llywodraeth "wrth weithredu argymhellion yr adolygiad ac yn fwy cyffredinol o ran y tirlun llywodraethiant o ran diogelu."

"Ry'n ni flwyddyn ers cyhoeddi'r adolygiad, dair blynedd ers i droseddau Neil Foden ddod i'r amlwg gyntaf a dwy flynedd ers ei ddedfrydu."

"Tra'i bod hi'n bwysig, wrth gwrs, i sicrhau bod digon o amser i gynnal adolygiadau yn iawn, rwy'n credu bod yr hyn sydd dan sylw mor arwyddocaol nes bod rhaid i ni chwistrellu mwy o frys i symud at le allwn gael sicrwydd bod plant yn ein hysgolion wirioneddol yn fwy diogel."

Yn ôl yr adolygiad, roedd hi'n "ddychrynllyd" bod rhai o argymhellion yr adroddiad yn "adlewyrchu'r rhai a welwyd yn [adroddiad] Clywch." 

Cafodd yr ymchwiliad hwnnw ei gynnal ugain mlynedd ynghynt wedi i'r pedoffeil, athro ac awdur John Owen ladd ei hun tra'n aros i sefyll ei brawf.

'Oedi'

Dywedodd Rocio Cifuentes bod adolygiad o system llywodraethu ysgolion wedi dechrau o dan y llywodraeth Lafur ddiwethaf, ond mae'n teimlo bod oedi wedi bod ers i Blaid Cymru ffurfio llywodraeth ym mis Mai.

"Dy'n ni'n methu aros am adolygiad ar ôl adolygiad cyn gweld newid," meddai. 

"Datgelodd yr Adolygiad Ymarfer Plant wedi troseddau Neil Foden ddiffygion difrifol gyda'r system cyrff llywodraethu ysgolion yn benodol, oedd yn thema amlygwyd ugain mlynedd yn ôl yn adroddiad Clywch...ac fe ddechreuodd y llywodraeth flaenorol ddarn o waith yn edrych ar sut mae cyrff llywodraethu yn gweithio. Ond mae'n ymddangos bod oedi ar y gwaith yna ers ffurfio'r llywodraeth newydd."

"Mae'n hanfodol ein bod yn clywed gan y llywodraeth beth yw eu cynlluniau i gwblhau'r gwaith hwnnw achos mae'n rhan hanfodol o'r darlun."

Roedd Helen Mary Jones yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru adeg cyhoeddi adroddiad Clywch.

Ers hynny, mae wedi dod yn llefarydd amlwg ar hawliau plant. Mae'n dweud bod rhesymau dilys posibl am yr oedi, ond yr hoffai hi weld gweinidogion yn amlinellu amserlen ar gyfer yr argymhellion sydd heb eu gwireddu.

Image
Helen Mary Jones
Helen Mary Jones

"Mae'n amlwg yn rhwystredig bod hyn yn cymryd amser...dwi'n credu bod hi'n bwysig bod Gweinidogion yn cadw llygad barcud ar hwn a sicrhau ei fod e'n flaenoriaeth," meddai. 

"Hoffwn i weld amserlen clir yn cael ei osod fel ein bod ni'n gwybod pryd i ddisgwyl y newidiadau yma."

"Dwi'n credu ei bod e'n iawn i ddweud bod hi'n well cymryd amser a chael y newidiadau yn iawn na rhuthro a chael rhywbeth sydd ddim yn newid y diwylliant. Ond galla'i weld bod hynny'n rhwystredig a dwi'n gobeithio byddwn ni mewn sefyllfa mewn chwe mis lle mae'r holl newidiadau wedi eu gwneud."

Dywedodd llefarydd ar dan Llywodraeth Cymru: “Nid oes unrhyw waith wedi'i atal dros dro; mae'r adolygiad o gyrff llywodraethu ysgolion yn archwilio'n gynhwysfawr yr ystod eang o rolau a chyfrifoldebau a roddir i lywodraethwyr

Fe ddywedodd Anna Brychan, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: "Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r argymhellion yn yr adroddiad, ac mae cynnydd yn cael ei wneud ar draws rhaglen o waith cenedlaethol er mwyn cryfhau trefniadau diogelu a chefnogi gwelliant parhaol.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y llywodraeth bod amserlen yr ymgynghori ar bolisïau a chanllawiau addysg yn "dibynnu ar waith rhyngddibynnol" a bod yr adolygiad o gyrff llywodraethu ysgolion yn archwilio'n gynhwysfawr yr ystod eang o rolau a chyfrifoldebau sy'n cael eu rhoi i lywodraethwyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.