Cwest: Dynes wedi marw o anafiadau trywanu ar Noson Calan Gaeaf

Eleanor O'Dell

Mae cwest wedi clywed fod dynes dynes 33 oed wedi marw yn ei fflat yn Llandudno, Sir Conwy, ar Noson Calan Gaeaf o ganlyniad i nifer o anafiadau trywanu.

Daeth swyddogion o hyd i gorff Eleanor O’Dell mewn tŷ ar Ffordd Sant Seiriol yn y dref toc wedi 20.00.

Mae dyn 36 oed o'r enw Christopher Thomas Ellis wedi cael ei gyhuddo o'i llofruddio.

Fe wnaeth Kate Robertson, dirprwy grwner gogledd-ddwyrain a chanolbarth Cymru, agor cwest i farwolaeth Ms O'Dell yn Rhuthun ddydd Llun.

Dywedodd: "Mae ymchwiliadau troseddol gan Heddlu Gogledd Cymru yn parhau. 

"O ganlyniad, bydd fy ymchwiliad i’r farwolaeth yn cael ei ohirio."

Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei theulu: "Roedd Eleanor yn berson addfwyn ei natur ac yn goleuo bywydau pawb.

"Mae colli ein merch annwyl wedi chwalu ein byd. Cafodd ei chymryd oddi wrthym, ac mae ein calonnau wedi torri’n llwyr.

"Rydym yn gwerthfawrogi’r holl gariad y mae hi wedi’i dderbyn, ac rydym yn ddiolchgar am yr holl eiriau o gefnogaeth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.