Dyn wedi marw mewn digwyddiad yn Nociau Caerdydd

ITV Cymru
Queen Alexandra Dock, Cardiff (Jeremy Segrott)

Mae dyn wedi marw yn dilyn digwyddiad yn Nociau Caerdydd.

Mae ITV Cymru yn deall bod yr heddlu'n ymchwilio ar ôl i weithiwr i Associated British Ports (ABP) farw mewn digwyddiad yr wythnos diwethaf.

Dywedodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) eu bod yn ymwybodol ac yn cefnogi ymchwiliad gan Heddlu De Cymru.  

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Borthladd Caerdydd yn gynnar fore Llun, 2 Tachwedd.

Dywedodd llefarydd ar ran ABP fod y cwmni wedi'i “dristáu'n fawr” gan farwolaeth un o'u gweithwyr.

Dywedodd y llefarydd fod y cwmni, sy'n gweithredu'r porthladd, yn cydweithio â'r awdurdodau perthnasol a'i fod wedi dechrau ymchwiliad llawn i amgylchiadau'r digwyddiad.

“Nid yw'n briodol gwneud sylwadau pellach ar hyn o bryd,” ychwanegodd.

ABP yw gweithredwr porthladdoedd mwyaf y DU, ac mae'n gyfrifol am y dociau yng Nghasnewydd, Abertawe, y Barri a Phort Talbot, yn ogystal â Chaerdydd.

Dywedodd datganiad llawn ABP: “Gall ABP gadarnhau bod digwyddiad ym Mhorthladd Caerdydd ddydd Llun, 2 Tachwedd, a arweiniodd at farwolaeth un o weithwyr ABP.

“Mae pawb yn ABP wedi'u tristáu'n fawr gan farwolaeth ein cydweithiwr, ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad diffuant i'w deulu, ei ffrindiau a'i gydweithwyr.

“Rydym yn darparu cymorth arbenigol i'r rhai y mae'r digwyddiad hwn wedi effeithio arnyn nhw.

“Mae ABP yn cydweithio â'r awdurdodau perthnasol ac wedi dechrau ymchwiliad llawn i amgylchiadau'r digwyddiad trasig hwn.

“Nid yw'n briodol gwneud sylwadau pellach ar hyn o bryd.”

Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan Heddlu De Cymru

Llun: Jeremy Segrott

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.