Cyhuddo dyn ar ôl ‘digwyddiad difrifol’ yn Abertawe nos Wener

ABERTAWE

Mae dyn 29 oed wedi’i gyhuddo ôl i'r heddlu ddatgan "digwyddiad difrifol" yn ardal Treforys, Abertawe, nos Wener.

Cafodd Thomas Gilheany, a gafodd ei arestio fore Sadwrn, ei gyhuddo o affräe bod ag arf yn ei feddiant.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun.

Mae dyn 41 oed a bachgen 16 oed, a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth.

Mae ditectifs o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad a ddigwyddodd am tua 16.15 ddydd Gwener.

Dywedodd Heddlu De Cymru nad ydyn nhw'n ymwybodol fod unrhyw un wedi'i anafu.

Apêl am wybodaeth

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw, yn enwedig modurwyr a oedd yn teithio ar hyd Heol Clase, Heol Samlet, Ffordd Goedwig Uchaf neu Ffordd y Cwm rhwng 16.15 a 16.30 ddydd Gwener.

Maen nhw hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un a deithiodd ar hyd Ffordd y Cwm rhwng hanner dydd a 13.30.

Dylai modurwyr gyflwyno unrhyw luniau o’u camerâu dangosfwrdd, hyd yn oed os nad oedden nhw wedi gweld y digwyddiad ei hun neu wedi sylwi ar unrhyw beth anarferol ar y pryd, medda'r heddlu.

Dywedodd yr heddlu y gallai’r lluniau gynnwys gwybodaeth am gerbydau neu symudiadau a allai fod yn berthnasol i’r ymchwiliad.

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Stephen Jones fod yr ymchwiliad yn parhau, gyda thimau o dditectifs a staff arbenigol yn gweithio ar yr achos.

"Mae digwyddiadau fel hyn yn brin, ond rydym yn cydnabod eu bod yn achosi cryn bryder mewn cymunedau lleol," meddai.

"Bydd yr heddlu yn parhau yn yr ardal wrth i swyddogion barhau â’u hymholiadau a rhoi sicrwydd i drigolion lleol.

"Hoffwn ddiolch i aelodau’r cyhoedd sydd wedi cynorthwyo gyda’n hymchwiliad hyd yma."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.