Kraków: Dyn oedd wedi ei amau o ladd chwech wedi marw yn yr ysbyty
Mae dyn oedd yn cael ei amau o ladd chwech o bobl yn Kraków yng Ngwlad Pwyl ddydd Sadwrn wedi marw yn yr ysbyty.
Cyhoeddodd heddlu'r wlad y newyddion am ei farwolaeth ar X fore dydd Llun.
Roedd dyn o Brydain ymhlith y chwech o bobl a gafodd eu saethu'n farw yn yr ymosodiad “brawychus” yn y ddinas.
Y gred yw bod y dyn arfog hefyd wedi lladd tri aelod o'i deulu ei hun.
Roedd person arall o Brydain ymhlith yr 16 o bobl a gafodd eu hanafu, gan gynnwys y saethwr.
Dechreuodd y dyn saethu'n wyllt yn Sgwâr Canolog Kraków brynhawn Sadwrn.
Cafodd pedair menyw a dau ddyn eu lladd, ac yn ôl swyddogion lleol, roedd tair o’r menywod ac un o’r dynion yn Bwyliaid.
Y gred yw bod y saethwr wedi'i ysbrydoli gan “ideolegau’r dde eithafol”, meddai’r awdurdodau yng Ngwlad Pwyl.
Dywedodd Gweinidog Mewnol Gwlad Pwyl, Marcin Kierwiński, fod gan yr ymosodwr “safbwyntiau radical iawn” a’i fod “wedi’i swyno gan ideolegau’r dde eithafol”.
Dechreuodd y dyn saethu gydag arf awtomatig yng nghanol hen dref Kraków tua 15:30 brynhawn Sadwrn.
Fe yrrodd i sawl man yn y sgwâr, gan saethu ym mhob un, meddai’r awdurdodau.
Yn ddiweddarach, cafodd ei saethu a’i anafu gan swyddogion yr heddlu, cyn cael ei gludo i’r ysbyty i gael llawdriniaeth.
'Clywed seirenau'
Dywedodd dyn ifanc o Gymru nad oedd am gael ei enwi, ac oedd yn Kraków ar y pryd, wrth Newyddion S4C ei fod wedi clywed seirenau a gweld hofrennydd.
"Oedden ni ar un o'r strydoedd wrth ochr y brif sgwâr, ac fe glywson ni seirenau," meddai.
"Fe welson ni bod dipyn o bobl yn dod allan o'r siopau, ac yn sefyll yn y drysau yn siarad efo'i gilydd.
"Wedyn fe welson ni ar y newyddion bod saethu wedi bod, a pump wedi'u lladd."
