Rhybudd melyn am niwl mewn grym yn y dwyrain

Niwl

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am niwl ar gyfer rhannau helaeth o Gymru, gyda’r posibilrwydd o amodau teithio anodd ac oedi fore Llun.

Mae'r rhybudd sydd mewn grym ers 18.00 ddydd Sul yn gorffen am 11.00 fore dydd Llun.

Fe allai’r niwl fod yn drwchus mewn rhai mannau, gan olygu mai dim ond tua 50 metr neu lai fydd pobl yn gallu ei weld o’u blaenau.

Mae’r rhybudd yn cynnwys 15 o ardaloedd cyngor yng Nghymru: 

  • Blaenau Gwent
  • Caerffili
  • Caerdydd
  • Casnewydd
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Torfaen
  • Bro Morgannwg
  • Wrecsam.

Mae'r rhybudd hefyd yn berthnasol i rannau helaeth o Loegr.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe allai teithiau gymryd mwy o amser, gyda’r posibilrwydd o oedi i wasanaethau bysiau a threnau. 

Mae siawns hefyd y bydd rhai hediadau yn cael eu gohirio neu eu canslo.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn cynghori gyrwyr i wirio cyflwr y ffyrdd cyn gadael, caniatáu mwy o amser ar gyfer eu taith ac addasu eu cynlluniau os oes angen.

Dylai gyrwyr hefyd sicrhau eu bod yn gwybod sut i droi goleuadau niwl eu cerbyd ymlaen, a’u bod yn gweithio cyn cychwyn.

Mae teithwyr sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys awyrennau a fferïau, yn cael eu hannog i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf gan eu cwmni teithio.

Mae disgwyl i’r niwl glirio’n araf yn ddiweddarach fore Llun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.