Galwad ar ysgolion i ddysgu llawer mwy am hanes Cymru

Newyddion S4C
Hanes Cymru

Wrth i ddau gynhyrchiad newydd gael eu perfformio ar lwyfannau Cymru - yn nodi dau o ddigwyddiadau mwya ein hanes - mae yna alw ar ysgolion Cymru i ddysgu llawer mwy i ddisgyblion am hanes ein cenedl.

Fe ddaw'r alwad honno gan gyfarwyddwr OPRA Cymru - wrth i opera newydd ar hanes y Tân yn Llŷn fynd ar daith.

Mae'r cynhyrchiad yn cyfeirio at weithred Saunders Lewis, DJ Williams a Lewis Valentine yn llosgi'r ysgol fomio - canolfan y llu awyr a gafodd ei chodi ar safle hen ffermdy Penyberth. Fe ddigwyddodd hynny  ym 1936, ac mae'r opera felly'n cael ei llwyfannu 90 mlynedd wedi'r digwyddiad hwnnw.

"Gesh i bach o sioc yn ddiweddar yn gwneud gweithdai (mewn ysgolion) wedi'u seilio ar y stori yma a sylweddoli does dim lot o ddisgyblion yn gwybod amdano fo o gwbwl," meddai Cyfarwyddwr Artistig OPRA Cymru, Patrick Young. 

Image
Opera Penyberth
Patrick Young, Cyfarwyddwr Artistig OPRA Cymru

"O'n i'n synnu am y ffaith, dyma ni yng Ngwynedd, dan ni'n son am Benyberth, ac o'n i'n disgwyl rhyw fath o wybodaeth o ran y stori gan y disgyblion, ond rely dim lot."

Mae drama hanesyddol Owain a Henry newydd ddechrau cael ei pherfformio yng nghanolfan Mileniwm Caerdydd, gyda'r perfformiadau'n para tan 28 Tachwedd. 

Cyfnod Gwrthryfel Glyndŵr ddechrau'r 15fed ganrif sy'n cael y sylw yn honno.

Yr actor Michael Sheen sy'n cymryd rhan Owain Glyndŵr - a hefyd yn cyd-gyfarwyddo'r ddrama. 

Mae o wedi dweud na ddysgodd o fawr ddim am hanes Cymru yn yr ysgol gan fod y gwersi hanes yn tueddu i adlewyrchu safbwyntiau Lloegr. 

Eto felly, fe ddaw'r cwynion nad oes digon o sylw i hanes Cymru yn yr ysgolion.

Eto i gyd, mae Ffion Wen Jones, pennaeth y dyniaethau yn ysgol Gyfun Bro Dur, yn pwysleisio bod pethau wedi newid ers dyddiau ysgol Michael Sheen. Mae llawer o bwyslais ar hanes lleol yn eu hysgol nhw - a chyfoeth y diwydiant dur yn ardal Port Talbot. Ond mae'n anodd cynnwys popeth, meddai, gan mai hyn a hyn o amser sydd.

Image
Ffion Wen Jones
Ffion Wen Jones

"Fi'n teimlo fel mae cymaint o hanes i ni allu ei wneud ac ym mlwyddyn 7, 8 a 9 ma' dan ni ddwy wers y pythefnos felly i allu gwneud cyfiawnder i bob un rhan o hanes Cymru wi ddim yn siwr mai cyfrifoldeb yr adran hanes yn unig ydy darparu'r hanes 'na (am y Tân yn Llŷn).

"Fi yn credu bod hi'n bwysig bod plant yn gwybod hanes Penyberth, falla fod o'n gallu dod i mewn i wersi Cymraeg, a bod yn rhywle arall y tu hwnt i'r cwricwlwm hanes."

Ymateb Llywodraeth Cymru 

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru fod dysgu am hanes Cymru wedi bod yn rhan hanfodol o Gwricwlwm Cymru ers i hwnnw gael ei gyflwyno bedair blynedd yn ôl. 

Mae'r Llywodraeth newydd yn adolygu'r cwricwlwm ar hyn o bryd i sicrhau bod gan ysgolion ganllawiau clir o ran dysgu hanes Cymru, mewn mwy o ddyfnder ac mewn ffordd sy'n adlewyrchu hanes ein cenedl.

Image
Penyberth
Y tri wrth wraidd hanes Penyberth

Mae hynny'n fodd, maen nhw'n ychwanegu, i roi'r hyder i bobol ifanc chwarae rhan lawn yng nghymdeithas Cymru.

Ar hyn o bryd mae Adnodd, sy'n datblygu darpariaeth ysgolion, eisoes yn cydweithio â haneswyr wrth greu'r adnoddau y bydd eu hangen. 

Fe fydd y Llywodraeth hefyd yn gweithio gyda'r corff safonau Dysgu o ran datblygu sgiliau athrawon yn y maes.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.