Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion pecyn cymorth costau byw i aelwydydd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth costau byw gwerth £130m, gan gynnwys taliad o £100 i aelwydydd ym mandiau treth cyngor A i D.
Bydd y taliad hefyd ar gael i bawb sy'n derbyn cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, waeth beth fo'u band treth gyngor.
Daw'r cyhoeddiad wrth i aelwydydd wynebu costau byw cynyddol, gyda'r Llywodraeth yn rhybuddio y gallai'r misoedd nesaf fod yn heriol oherwydd y gwrthdaro parhaus yn y Dwyrain Canol sydd wedi arwain at gynnydd mewn prisiau ynni.
Nid yw'r datganiad yn nodi pryd yn union y bydd aelwydydd yn derbyn y taliad o £100 na sut y bydd yn cael ei ddosbarthu.
Mae'r cyhoeddiad yn cydfynd gyda'r hyn fydd yn digwydd yng ngweddill Prydain gan fod y Canghellor John Healey wedi cyhoeddi'r un cymorth i aelwydydd yn Lloegr yn ystod y Gyllideb fis diwethaf.
Bydd y cymorth yn cael ei gynnig yn Lloegr o fis Ionawr ymlaen.
Mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi cadarnhau y bydd yn cynnig yr un cymorth i gartrefi ym mandiau treth cyngor A-D.
Pwy fydd yn cael cymorth?
Yn ogystal â'r taliad o £100, bydd £8m ychwanegol ar gael i gynghorau lleol i helpu aelwydydd sy'n wynebu caledi ariannol ond sydd ddim yn cael cymorth drwy gynlluniau eraill'
Bydd y cyllid yn galluogi cynghorau i ymestyn y taliad o £100 i'r aelwydydd hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd canllawiau llawn ar y cynllun ar gael i gynghorau yn fuan.
Bydd £5m hefyd yn cael ei ddarparu i helpu gyda chostau tanwydd oddi ar y grid.
O dan y cynllun, bydd taliad o £250 ar gael i aelwydydd sy'n gymwys i gael Gostyngiad yn y Dreth Gyngor ar sail eu hincwm ac sy'n dibynnu ar olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifedig (LPG).
Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys £7m i helpu gweithredwyr bysiau gyda chostau tanwydd uwch.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bwriad y cyllid yw helpu i ddiogelu gwasanaethau bysiau lleol, trafnidiaeth gymunedol a chludiant i ddysgwyr, yn ogystal â cheisio atal cynnydd ym mhrisiau tocynnau.
Bydd yr arian yn cael ei ddarparu drwy strwythur cynllun grant bysiau sydd eisoes yn bodoli.
Bydd yr ymgyrch 'Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i Chi' hefyd yn cael hwb, gyda'r nod o sicrhau bod rhagor o bobl yn gwybod pa gymorth ariannol sydd ar gael iddynt.
'Mae angen i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan'
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams, fod llawer o aelwydydd ledled Cymru yn wynebu cyfnod heriol.
"Mae cefnogi teuluoedd gyda chostau byw yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon.
"Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod heriol i lawer o aelwydydd ledled Cymru a heddiw rwy'n cyhoeddi pecyn arall o gymorth uniongyrchol."
Ond ychwanegodd fod angen i Lywodraeth y DU wneud mwy.
"Er ein bod yn cymryd camau cadarn pan fo modd, mae angen i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan."
Dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i gael gwared ar y cap ar fudd-daliadau, cynyddu'r Lwfans Tai Lleol a chyflwyno tariffau cymdeithasol.
Nid yw'r datganiad yn nodi faint o aelwydydd fydd yn elwa o'r pecyn £130m yn ei gyfanrwydd.
