Dechrau niwlog i ambell ardal yn y dwyrain fore Mawrth

Elyrch mewn niwl

Parhau mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd ar gyfer niwl mewn ambell ardal yn nwyrain Cymru fore Mawrth.

Mae'r rhybudd a ddaeth i rym am 18:00 nos Lun, yn parhau tan 11:00 fore Mawrth.

Daw hyn yn dilyn rhybudd melyn arall am niwl a oedd mewn grym nos Sul a bore dydd Llun.

Fe allai’r niwl fod yn drwchus ar adegau, gan olygu mai dim ond 100 metr neu lai fydd pobl yn gallu ei weld o’u blaenau.

Mae’r rhybudd diweddaraf yn berthnasol i rannau o Gonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Powys a Wrecsam.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe allai teithiau gymryd mwy o amser na’r arfer, gyda’r posibilrwydd o oedi i wasanaethau bysiau a threnau.

Mae posibilrwydd hefyd y gallai rhai hediadau gael eu gohirio neu eu canslo.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae digwyl i'r niwl glirio'n raddol yng Nghymru yn ystod bore Mawrth.  

Yn Llundain, mae rhybudd am lygredd aer uchel wedi ei gyhoeddi gan faer y ddinas, yr Arglwydd Sadiq Khan, wedi penwythnos o niwl trwchus ac arddangosfeydd tân gwyllt.      

Dadansoddwyr y tywydd o Goleg Imperial, Llundain College sydd wedi cynghori'r maer i gyhoeddi'r rhybudd, gan nodi fod mwg ers Noson Tân Gwyllt a dathliadau Diwali yn "debygol o fod wedi cyfrannu" at y llygredd.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.