Teulu dynes a fuodd farw mewn gwrthdrawiad yn galw am newid y gyfraith
Mae teulu dynes o Grucywel a fuodd farw mewn gwrthdrawiad yn galw am ddiwygio'r gyfraith sy'n ymwneud â phobl sy'n cael eu hystyried yn anaddas i bledio mewn achos troseddol.
Fe fuodd Sophie Brimble farw yn 20 oed pan yrrodd ei chariad, Jay Bayliss, y car yr oeddent yn teithio ynddo i mewn i bolyn lamp wrth rasio ar stryd ym Mrynmawr, Blaenau Gwent, yn 2017.
Roedd Bayliss yn gyrru ar gyflymder bron deirgwaith y terfyn cyflymder ar y pryd, wrth iddo rasio yn erbyn Neil Brooks.
Cafodd Brooks ei garcharu am wyth mlynedd ym mis Medi 2019, a'i wahardd rhag gyrru am bum mlynedd ar ôl iddo gael ei ryddhau.
Ond yn dilyn y gwrthdrawiad, penderfynodd y llys nad oedd Bayliss yn addas i wynebu achos troseddol oherwydd anaf i'r ymennydd a gafodd yn y ddamwain.
Yn 2024, cafodd ymchwiliad Heddlu Gwent ei ailagor ar ôl i Bayliss lwyddo i gael ei drwydded yrru yn ôl.
Cafodd ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Casnewydd ym mis Mawrth eleni, daeth rheithgor i'r casgliad ei fod wedi cyflawni'r weithred a achosodd farwolaeth Sophie.
Ond unwaith eto, dyfarnwyd nad oedd Bayliss, sydd bellach yn 32 oed, yn addas i bledio, gan gyfyngu ar yr opsiynau oedd ar gael i'r barnwr.
Ym mis Ebrill, cafodd ei ryddhau'n ddiamod (absolute discharge), sy'n golygu na chafodd unrhyw gosb ei rhoi iddo. Ni chafodd ei wahardd rhag gyrru ychwaith.
Bellach, dros naw mlynedd ers marwolaeth Sophie, mae deiseb gan ei theulu sy'n galw am ddiwygio'r gyfraith wedi denu dros 100,000 o lofnodion.
Galw am newid y gyfraith
Fe wnaeth teulu Sophie lansio'r ddeiseb yn dilyn canlyniad yr achos llys.
Maen nhw'n galw am newid y gyfraith sy'n ymwneud â diffynyddion sy'n cael eu hystyried yn anaddas i bledio.
Maen nhw am i lysoedd gael mwy o bwerau i osod mesurau diogelwch, gan gynnwys gwaharddiadau gyrru, hyd yn oed pan nad yw diffynnydd wedi cael ei ddyfarnu'n euog o drosedd.
Fe gyrhaeddodd y ddeiseb 100,000 o lofnodion ddydd Sul, 8 Tachwedd, sef y diwrnod olaf cyn iddi gau.
Mae hynny'n golygu ei bod wedi cyrraedd y trothwy i gael ei hystyried ar gyfer dadl yn Senedd San Steffan.
Mae'r ddeiseb yn galw am newid y gyfraith er mwyn sicrhau bod achosion sy'n ymwneud â diffynyddion sy'n anaddas i bledio yn cael eu trin yn fwy priodol, gan roi mwy o ystyriaeth i atebolrwydd a diogelwch y cyhoedd.
Mae'r prawf cyfreithiol presennol ar gyfer penderfynu a yw rhywun yn addas i bledio yn seiliedig ar egwyddorion sy'n dyddio'n ôl i 1836.
Mae'n ystyried a yw diffynnydd yn gallu deall y cyhuddiadau yn ei erbyn, penderfynu sut i bledio, dilyn yr achos llys a rhoi tystiolaeth.
Pan fydd rhywun yn cael ei ddyfarnu'n anaddas i bledio, nid oes modd cynnal achos troseddol arferol i benderfynu a yw'n euog.
Yn lle hynny, gall rheithgor gynnal gwrandawiad i ganfod y ffeithiau a phenderfynu a gyflawnodd y diffynnydd y weithred dan sylw.
Ond mae'r opsiynau sydd ar gael i'r llys yn dilyn penderfyniad o'r fath yn gyfyngedig.
'Cyfrifoldeb'
Dywedodd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) fod cyfrifoldeb ar bob gyrrwr i sicrhau ei fod yn feddygol addas i yrru.
Mae'n rhaid i yrwyr hefyd roi gwybod i'r DVLA os byddant yn datblygu cyflwr meddygol, neu os bydd cyflwr presennol yn gwaethygu, mewn ffordd a allai effeithio ar eu gallu i yrru.
Ychwanegodd yr asiantaeth ei bod yn ymchwilio ac yn cymryd y camau angenrheidiol pan ddaw'n ymwybodol o gyflwr meddygol a allai effeithio ar allu rhywun i yrru.
Mewn teyrnged i Sophie, dywedodd ei theulu: “Roedd Sophie yn hardd, y tu mewn a'r tu allan.
“O'r eiliad y byddai'n camu i mewn i ystafell, roedd fel pe bai'r golau'n disgleirio ychydig yn fwy disglair.
“Roedd ei chwerthin yn heintus, ei gwên yn anghofiadwy, ac roedd ei hysbryd yn wirioneddol unigryw.
“Doedd na ddim un eiliad ddiflas pan oedd Sophie o gwmpas.”
