Dŵr Cymru ymhlith naw cwmni sydd wedi gorfod atal taliadau bonws

Dŵr Cymru

Mae Dŵr Cymru ymhlith naw cwmni dŵr sydd wedi gorfod atal taliadau bonws posib gwerth cyfanswm o fwy na £6.5 miliwn i’w prif swyddogion.

Dywedodd y rheoleiddiwr Ofwat bod hynny oherwydd methiannau ym mherfformiad y cwmnioedd.

Yn ôl y rheoleiddiwr Ofwat, roedd y methiannau yn ystod 2025-26 yn ymwneud yn bennaf â llygredd ac achosion lle’r oedd Ofwar wedi gorfod cymryd camau yn erbyn cwmnioedd.

Gall y rheoleiddiwr wahardd cwmnïau rhag talu bonysau sy’n gysylltiedig â pherfformiad i gyfarwyddwyr ar lefel bwrdd mewn amgylchiadau penodol.

Dros y ddwy flynedd ers cyflwyno’r rheol, dywedodd Ofwat eu bod nhw wedi atal taliadau bonws posib gwerth mwy na £10 miliwn ar draws y cwmnïau dŵr.

Dywedodd adroddiad Ofwat bod taliadau yn ymwneud â pherfformiad Dŵr Cymru wedi eu hatal ar gyfer cyn-brif weithredwr a chyn-brif swyddog ariannol y cwmni.

Roedd hynny o ganlyniad i un digwyddiad llygredd a thri euogfarn troseddol, medden nhw.

Nid oedd prif weithredwr presennol Dŵr Cymru yn ei swydd ar y pryd, ac nid oedd y prif swyddog ariannol ar fwrdd y cwmni, meddai Ofwat.

Mae Newyddion S4C wedi holi Dŵr Cymru am ymateb.

Roedd Severn Trent Water hefyd ymhlith y naw cwmni, ynghyd ag Anglian Water, Northumbrian Water, Southern Water, South West Water, Thames Water, Wessex Water a Yorkshire Water.

‘Ymddiriedaeth yn isel’

Dywedodd Ofwat eu bod nhw hefyd yn pryderu bod newidiadau i’r ffordd mae rhai cwmnïau’n talu eu prif swyddogion a allai danseilio bwriad y rheol.

Mae’r pryderon yn cynnwys taliadau i annog swyddogion i aros yn eu swyddi, yn ogystal â chodiadau mawr i’w cyflogau sylfaenol.

O ganlyniad, mae Ofwat yn adolygu’r rheol rheol, ac wedi lansio galwad am dystiolaeth i ystyried sut y gallai ei chryfhau.

Dywedodd Helen Campbell, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro dros Gyflawni yn Ofwat, ei bod yn “siomedig” bod cynifer o gwmnïau’n parhau i dorri’r safonau perfformiad sy’n arwain at wahardd bonysau.

“Mae ymddiriedaeth y cyhoedd yn y sector dŵr yn parhau’n isel, ac mae bonysau i brif swyddogion nad ydynt yn adlewyrchu perfformiad, taliadau i gadw swyddogion a chodiadau i gyflogau sylfaenol sydd heb eu hesbonio’n ddigonol yn cyfrannu at y diffyg ymddiriedaeth hwnnw,” meddai.

“Dyna pam rydyn ni’n cyflymu ein hadolygiad er mwyn sicrhau bod y rheol yn cyflawni’r canlyniadau y mae gan gwsmeriaid bob hawl i’w disgwyl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.