Gwaharddiad tri mis i athletwr oedd wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad
Mae’r rhedwr sydd wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad a Phrydain ym Mhencampwriaethau’r Byd wedi derbyn gwaharddiad o dri mis ar ôl methu prawf cyffuriau.
Fe wnaeth y prawf ganfod sylwedd sy’n deillio o gocên yng ngorff Joshua Griffiths o Sir Gaerfyrddin.
Mae Griffiths, sy’n 33 oed, wedi gwadu cymryd cocên yn fwriadol neu ddefnyddio unrhyw gyffur hamdden arall.
Daeth yr athletwr i amlygrwydd ym Marathon Llundain 2017, pan orffenodd y ras yn yr 13fed safle, gan sicrhau lle iddo yng ngharfan Prydain ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd.
Wrth gyhoeddi eu penderfyniad, dywedodd yr Uned Uniondeb Athletau (AIU) eu bod nhw'n derbyn fod y cocên wedi mynd i’w gorff y tu allan i gyfnod cystadlu, ac nad oedd y defnydd yn gysylltiedig â pherfformiad chwaraeon.
Mae’r gwaharddiad eisoes wedi dod i ben, meddai’r penderfyniad a gyhoeddwyd fis yma.
Fe gafodd Josh Griffiths ei wahardd am y cyfnod rhwng 19 Mehefin a 18 Medi 2026, gan gynnwys yr amser yr oedd wedi’i atal dros dro rhag cystadlu.
Cafodd y sampl wrin ei chasglu ar ôl iddo gystadlu ym Marathon Dinas Belfast ar 3 Mai eleni.
Fe wnaeth labordy ganfod benzoylecgonine, sylwedd sy’n ffurfio yn y corff ar ôl cymryd cocên. Fe wnaeth prawf ar ail sampl gadarnhau’r canlyniad.
Yn ôl penderfyniad yr AIU, ymateb cyntaf Griffiths oedd bod y canlyniad yn "amhosibl" a bod yn rhaid bod camgymeriad wedi digwydd.
Dywedodd nad oedd erioed wedi cymryd cocên yn fwriadol, ac nad oedd yn ymwybodol bod unrhyw un yr oedd wedi treulio amser gyda nhw cyn y ras wedi defnyddio’r cyffur.
Fe awgrymodd ei fod wedi dod i gysylltiad â’r cyffur drwy ddamwain, ond nid oedd yn gallu nodi ffynhonnell benodol.
Cyflwynodd ei gynrychiolwyr dystiolaeth gan dystion ac arbenigwyr gwyddonol i gefnogi ei achos.
Roedd arbenigwr annibynnol yr AIU hefyd o’r farn ei bod yn debygol iawn bod y lefelau a gafodd eu canfod yn deillio o gocên a oedd wedi mynd i’w gorff cyn dechrau’r cyfnod cystadlu.
Ond fe bwysleisiodd yr AIU nad oedd Griffiths wedi sefydlu sut roedd y cocên wedi mynd i’w gorff. Nid oedd felly wedi llwyddo i gadarnhau ei esboniad mai damwain oedd y prawf cadarnhaol.
Ar 9 Hydref, fe dderbyniodd Griffiths ei fod wedi torri’r rheolau gwrth-gyffuriau a chytunodd i’r gosb. Hwn oedd ei achos cyntaf o dorri’r rheolau.
Llun gan Katie Chan.