'Cwbl annerbyniol': Y Gweinidog Iechyd yn ymateb i adroddiad ar arweinyddiaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Mae'r Gweinidog Iechyd, Mabon ap Gwynfor wedi disgrifio methiannau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel rhai "cwbl annerbyniol" yn dilyn cyhoeddi adolygiad annibynnol o arweinyddiaeth y sefydliad.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r 21 o argymhellion yn yr adroddiad, sydd wedi tynnu sylw at arweinyddiaeth ansefydlog, diffyg strategaeth a "diwylliant o ofn" ymhlith staff.
Dywedodd y Gweinidog fod y bwrdd iechyd yn parhau i gyflawni canlyniadau cymharol wael er gwaethaf ymyriadau blaenorol, ac nad oes ganddo'r gallu i sicrhau gwelliannau ar y raddfa a'r cyflymder oedd eu hangen.
Mae'r bwrdd iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig ers 27 Chwefror 2023, sef y lefel uchaf o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.
"Mae'r methiannau hyn yn gwbl annerbyniol," meddai Mabon ap Gwynfor.
"Rwyf hefyd yn rhannu rhwystredigaeth ddealladwy staff a chleifion ledled gogledd Cymru ynghylch y diffyg cynnydd o ran gwella gwasanaethau a safonau gofal a gwreiddio'r gwelliannau hynny."
Canfyddiadau'r adolygiad
Roedd canfyddiadau adolygiad newydd a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth yn dweud bod "arweinyddiaeth ansefydlog" a "diffyg strategaeth" yn golygu nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithredu fel un sefydliad trefnus.
Roedd adroddiadau hefyd am ddiwylliant o ofn ymysg rhai staff, gyda gweithwyr yn disgrifio 'meddylfryd gwarchae' ('siege mentality') er mwyn amddiffyn eu hunain.
Mae llywodraethiant y Bwrdd yn "anaeddfed ac aneffeithiol" hefyd, sy’n effeithio ar allu’r bwrdd iechyd i gyflawni ei gyfrifoldebau yn ddigonol.
Mae'r canfyddiadau wedi eu cyhoeddi yn 'Adolygiad Annibynnol o Ansawdd Arweinyddiaeth' y bwrdd iechyd, gafodd ei gomisiynu ym mis Mai gan y llywodraeth.
Mae diwylliant y sefydliad wedi ei effeithio o achos y diffyg arweinyddiaeth, gyda "lefelau diogelwch seicolegol yn isel" a diffyg ymgysylltiad, er bod awduron yr adroddiad yn cydnabod gwaith caled ac ymroddgar y staff.
Derbyn pob un o'r argymhellion
Mae chwech o'r 21 o argymhellion yn ymwneud yn uniongyrchol ag arweinyddiaeth, gyda thri arall yn canolbwyntio ar gryfhau gallu ac effeithiolrwydd y bwrdd a'i bwyllgorau.
Mae'r panel wedi disgrifio'r chwe mis cyntaf fel cyfnod "hollbwysig" er mwyn atal unrhyw ddirywiad pellach.
"Rwy'n derbyn pob un o'r 21 o argymhellion, a fydd yn rhoi eglurder a chyfeiriad i'r bwrdd iechyd ac yn sicrhau bod casgliadau'r adroddiad yn llywio gwelliannau yn y dyfodol yn uniongyrchol," meddai'r gweinidog.
Yn wahanol i ymyriadau blaenorol, pan oedd disgwyl i'r bwrdd iechyd arwain ei adferiad ei hun gyda chymorth allanol, mae Perfformiad a Gwella'r GIG Cymru bellach yn arwain y gwaith yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin.
Diolchodd Mabon ap Gwynfor hefyd i staff y bwrdd iechyd am eu gwaith yn gofalu am gleifion ac am rannu eu profiadau â'r panel.
"Bydd eu cyfraniad yn ganolog i ddatblygu diwylliant mwy cadarnhaol a chynhwysol ac i gyflawni gwelliant cynaliadwy."
Fe fydd y Gweinidog yn gwneud datganiad yn y Senedd brynhawn Mawrth, gan roi rhagor o fanylion am ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad.