'Arweinyddiaeth ansefydlog a diffyg strategaeth' yn gyfrifol am drafferthion hirdymor Betsi Cadwaladr
Mae "arweinyddiaeth ansefydlog" a "diffyg strategaeth" yn golygu nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithredu fel un sefydliad trefnus.
Dyna ganfyddiadau adolygiad newydd sydd wedi ei gyhoeddi ddydd Mawrth.
Roedd adroddiadau hefyd am ddiwylliant o ofn ymysg rhai staff, gyda gweithwyr yn disgrifio 'meddylfryd gwarchae' ('siege mentality') er mwyn amddiffyn eu hunain.
Mae llywodraethiant y Bwrdd yn "anaeddfed ac aneffeithiol" hefyd, sy’n effeithio ar allu’r bwrdd iechyd i gyflawni ei gyfrifoldebau yn ddigonol.
Mae'r canfyddiadau wedi eu cyhoeddi yn 'Adolygiad Annibynnol o Ansawdd Arweinyddiaeth' y bwrdd iechyd. Fe gafodd ei gomisiynu ym mis Mai gan y llywodraeth.
Mae diwylliant y sefydliad wedi ei effeithio o achos y diffyg arweinyddiaeth, gyda "lefelau diogelwch seicolegol yn isel" a diffyg ymgysylltiad. Ond mae awduron yr adroddiad yn cydnabod gwaith caled ac ymroddgar y staff.
Trafferthion hirdymor
Mae'r bwrdd iechyd wedi bod ar lefel uwchgyfeirio uchel ers 11 mlynedd bellach, ac ar y lefel fwyaf difrifol, lefel 5, ers mis Chwefror 2023.
Cafodd yr 'Adolygiad Annibynnol o Ansawdd Arweinyddiaeth' ei gomisiynu gan Lywodraeth newydd Cymru ym mis Mehefin eleni. Y bwriad oedd i "sefydlogi gwasanaethau, i gryfhau arweinyddiaeth ac atebolrwydd, ac i ysgogi gwelliannau parhaol i bobl ledled y Gogledd" yn ôl gweinidogion.
Cafodd yr adolygiad ei baratoi dros gyfnod o dri mis gan yr arbenigwyr ym maes iechyd Dr Kathy McLean OBE, Y Fonesig Alwen Williams, Yr Athro Em Wilkinson-Brice, Dr Pamela Johnston a Syr Stephen Powis.
Fel rhan o'r adolygiad, fe wnaeth y panel siarad yn uniongyrchol â dros 500 o unigolion, gyda dros 550 o ddogfennau ar gael iddynt eu hystyried.
Mae'r bwrdd iechyd yn gwasanaethu dros 700,000 o bobl ar draws chwe sir yng ngogledd Cymru.
Dyma'r sefydliad iechyd integredig mwyaf yng Nghymru, sy'n cyflogi tua 20,000 o aelodau staff ac yn rheoli cyllideb flynyddol o tua £2.4 biliwn.
'Diwylliant o ofn'
Mae'r adolygiad wedi tynnu sylw at ddiwylliant o ofn a diffyg ymddiriedaeth o fewn y bwrdd iechyd. Mae rhai aelodau o staff yn poeni y gallai lleisio eu barn gael effaith ar eu gyrfaoedd.
Wrth drafod diwylliant y sefydliad, dywedodd yr adroddiad: "Adroddodd llawer o ardaloedd ar ddiwylliant lle mae targedau a materion ariannol yn cael mwy o flaenoriaeth gan uwch-reolwyr nag ansawdd a diogelwch gofal.
"Soniwyd yn aml am ofn lleisio barn, ac mae diogelwch seicolegol yn isel. Nid oedd staff yn credu y byddai codi pryder yn arwain at gamau cywiro."
Dywedodd rhai aelodau o staff wrth y panel nad oeddent bellach yn mynegi pryderon clinigol oherwydd "ofn dial", tra bod eraill wedi cyfeirio at "gadw eu pennau i lawr".
"Mae hyn wedi meithrin diwylliant o ofn, lle mae pobl yn osgoi risg. Roedd llawer o staff yn disgrifio 'meddylfryd gwarchae' er mwyn amddiffyn eu hunain," meddai'r adroddiad.
Honiadau o ffafriaeth
Clywodd y panel hefyd honiadau o ffafriaeth, gyda rhai aelodau o staff yn cael eu dyrchafu am nad oeddent yn debygol o wrthwynebu eu huwch-swyddogion.
"Roedd llawer o staff yn teimlo nad oedd mynegi barn yn werth y 'risg' i’w gyrfaoedd, ac roedd eraill yn teimlo nad oedd ganddynt ddewis ond gadael y sefydliad."
Yn ôl Arolwg Cenedlaethol y Staff yn 2025, roedd y sgôr mewn ymateb i'r datganiad "Rydym i gyd yn gallu lleisio ein barn" wedi gostwng 1.4 pwynt canran dros gyfnod o dair blynedd. Roedd y sgôr am feithrin amgylcheddau gwaith iach wedi gostwng 1.8 pwynt canran.
Fe wnaeth y panel hefyd ganfod bod diffyg ymddiriedaeth yn yr arweinwyr. Roedd staff o'r farn bod bwlch rhwng uwch-arweinwyr a realiti darparu gofal iechyd ar y rheng flaen.
Er i'r panel ddod ar draws nifer o enghreifftiau o arferion da a thimau ymroddedig, nid oedd y profiadau cadarnhaol hynny'n gyson ar draws y sefydliad.
Roedd na ddyfalu y gallai'r adolygiad arwain at rannu'r bwrdd iechyd yn llai. Er hynny mae'r awdurdon yn cydnabod cryfder cael bwrdd iechyd sydd yn fawr ei faint.
Mae 21 o awgrymiadau yn yr adroddiad newydd, ac mae'r adolygiad yn awgrymu tri cham gweithredu i'r bwrdd iechyd:
Cam 1 Sefydlogi 0 - chwe mis: Mae hwn yn gyfnod hollbwysig er mwyn atal unrhyw ddirywiad pellach medd yr awduron. Dylai'r bwrdd iechyd "sefydlogi ei arweinyddiaeth, ei alluogrwydd sefydliadol a’i drefniadau gweithredol, fel bod llinellau clir yn eu lle ar gyfer cyfrifoldeb ac atebolrwydd er mwyn sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu’n ddiogel."
Cam 2 Gwella Chwe mis - dwy flynedd: Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r argymhellion yn mynd i’r afael â’r diffygion presennol o ran strategaeth, diwylliant, llywodraethiant a galluogrwydd arweinyddiaeth. "Bydd angen ymgysylltu’n llawn â staff a phartneriaid er mwyn meithrin ymddiriedaeth a hyder yn y sefydliad."
Cam 3 Cynnal + dwy flynedd: Rhaid i'r bwrdd iechyd "sicrhau bod dysgu sefydliadol, gwella ansawdd, a dull aeddfed o ymdrin â thrawsnewid yn cael eu gwreiddio er mwyn cynnal gwelliant."
Diffyg cyfeiriad strategol
Fe wnaeth yr adolygiad ganfod nad yw'r bwrdd yn darparu cyfeiriad strategol clir, a'i bod yn ymddangos ar adegau ei fod yn cael ei lethu gan y problemau sy'n wynebu'r sefydliad.
Mae trefniadau llywodraethu aneffeithiol hefyd yn amharu ar allu'r bwrdd iechyd i gyflawni ei gyfrifoldebau.
O ganlyniad, mae diwylliant gwaith y sefydliad wedi dioddef, gyda diffyg ymddiriedaeth a hyder yn yr arweinwyr ac ofn ymhlith staff i leisio eu barn.
Mae aelodau o staff hefyd wedi dweud bod uwch-reolwyr yn rhoi mwy o flaenoriaeth i dargedau a materion ariannol nag i ansawdd a diogelwch gofal cleifion.
Dywedodd rhai aelodau o staff nad oeddent bellach yn mynegi pryderon clinigol oherwydd "ofn dial" gan uwch-reolwyr.
Parhau i fethu â sicrhau gwelliannau cynaliadwy
Er gwaethaf cyfres o adolygiadau ac ymyriadau ers sefydlu'r bwrdd iechyd yn 2009, dywedodd y panel na fu gwelliant pendant a chynaliadwy yn safonau'r gofal sy'n cael ei ddarparu.
Fe wnaeth y panel ganfod nad yw'r tîm gweithredol presennol yn unedig. Mae hanes hir o ansefydlogrwydd ymhlith arweinwyr, trosiant uchel ymhlith uwch-arweinwyr a swyddi allweddol heb eu llenwi am gyfnodau hir.
Mae canoli cyfrifoldebau hefyd wedi arwain at fiwrocratiaeth ac oedi sylweddol wrth wneud penderfyniadau, yn ôl yr adolygiad.
Dywedodd yr adroddiad nad yw'r bwrdd yn effeithiol wrth ddal y tîm gweithredol i gyfrif, a'i fod wedi'i ddatgysylltu oddi wrth brofiadau staff a chleifion.
Er bod nifer o gynlluniau a rhaglenni ar waith o fewn y sefydliad, canfu'r panel nad oedd y bwrdd iechyd yn llwyddo i droi'r rheiny'n gamau gweithredu amserol a gwelliannau cynaliadwy.