Teyrnged teulu i ddyn 33 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Wrecsam
Mae teulu dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Wrecsam ddydd Llun wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Jamie Lindop ar 15 Rhagfyr yn dilyn gwrthdrawiad gyda fan pan oedd yn gyrru ei feic modur ar Ffordd y Dderwen yn y ddinas.
Roedd yn dad 33 oed oedd yn dod o ardal Owrtyn.
Fe ddioddefodd anafiadau difrifol yn y digwyddiad, cyn cael ei drosglwyddo i'r ysbyty. Bu farw'n ddiweddarach.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei bartner Emily: "Roedd Jamie wir yn berson hyfryd... does dim digon o eiriau all gyfleu'r golled fydd y byd yn mynd trwyddo, achos does neb ac ni fydd neb mor brydferth a pherffaith a fy Jamie.
"Jamie ti yw y tad gorau yn y byd yn grwn, fy ffrind gorau a fy nghymar einioes."
Mae swyddogion yn parhau i apelio am dystion i'r digwyddiad, a ddigwyddodd ychydig cyn 06.42 ddydd Llun.
Maen nhw'n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu luniau camera dashcam a allai gynorthwyo gyda'r ymchwiliad i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy eu gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 25001021174.