Llywodraeth Cymru i benderfynu ar gynllun ynni hydro dadleuol yn Eryri

Afon Cynfal

Bydd penderfyniad dros ganiatáu cynllun ynni hydro dadleuol yn Eryri yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r brodyr Elis Dafydd, Moi Dafydd a Dafydd Elis, o'r Bala, yn ceisio caniatâd cynllunio ar gyfer y cynllun 600 cilowat ar Afon Cynfal ger Llan Ffestiniog. 

Yn ôl y brodyr, sy'n ffermio yn yr ardal, byddai'r cynllun yn darparu digon o drydan ar gyfer 700 o gartrefi ac yn helpu i gyrraedd targedau net sero.

Cafodd y cais ei gyflwyno gyntaf yn 2024, ac roedd eu hail gais i fod i gael ei ystyried gan bwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym mis Ionawr.

Er i gynlluniau'r gorffennol fethu â dwyn ffrwyth, roedd swyddogion cynllunio'r Parc Cenedlaethol wedi argymell caniatáu'r cynllun.

Ond roedd y cynllun wedi wynebu gwrthwynebiad cryf ar sail amgylcheddol a'r effaith y bydd yn ei gael ar Bont yr Afon Gam a Rhaeadr y Cwm.

Cyn y cyfarfod cynllunio ym mis Ionawr, roedd 592 o ymatebion wedi dod i law - 453 ohonynt yn gwrthwynebu'r cynllun. 

Ymhlith y gwrthwynebwyr roedd Cymdeithas Parc Eryri a'r sefydliad Save Our Rivers.

O'r 139 oedd yn cefnogi'r cynllun, roedd y mwyafrif yn honni na fyddai'r datblygiad yn rhy amlwg, ac y byddai'n cyfrannu at gynlluniau ynni gwyrdd y llywodraeth ac yn helpu tirfeddianwyr i arallgyfeirio eu hincwm.

Yn y cyfarfod roedd swyddogion wedi gofyn am ohirio'r mater oherwydd bod angen ystyried 900 o ymatebion hwyr.

Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach fod Llywodraeth Cymru wedi oedi'r cais er mwyn ystyried a ddylai gweinidogion wneud penderfyniad.

Ond mae adroddiad i bwyllgor cynllunio'r Parc Cenedlaethol yr wythnos nesaf yn datgelu bod y pederfyniad bellach yn cael ei wneud gan weinidogion, er nad oes rheswm wedi'i roi dros hynny.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.