Tollau uwch ar ddur sy'n cael ei fewnforio yn 'newyddion da i Gymru'
Mae Prif Weinidog Cymru wedi croeswu cynllun newydd i gynhyrchu o leiaf hanner y dur sy’n cael ei ddefnyddio yn y DU o fewn y wladwriaeth.
Fe gyhoeddodd Ysgrifennydd Busnes a Masnach Llywodraeth y DU, Peter Kyle, fanylion y strategaeth yn ystod ymweliad â gwaith Tata Steel ym Mhort Talbot.
Mae angen i 30% o ddur y DU gael ei gynhyrchu yma ar hyn o bryd.
O fis Gorffennaf bydd 60% yn llai o ddur yn cael ei fewnforio a bydd dur sy’n dod i mewn i’r DU uwchlaw’r lefelau hynny yn gorfod wynebu tariff o 50%, meddai Llywodraeth y DU.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan bod y cyhoeddiad “yn newyddion da i'n cymunedau dur a'r miloedd o bobl ledled Cymru sy'n gweithio yn y diwydiant”.
“Mae'r Strategaeth hefyd yn cadarnhau’r trosglwyddo i gynhyrchu Dur Arc Drydan yn y DU, lle mae Port Talbot yn arwain y ffordd, nid yn unig yn y DU, ond ar draws Ewrop,” meddai.
Wrth ymweld â Chymru dywedodd Peter Kyle y byddai gallu’r DU i wneud dur mewn “perygl gwirioneddol” heb weithredu.
“Mae gwneud dur yn y DU yn hanfodol i ddiogelwch cenedlaethol, seilwaith allweddol a’r economi ehangach,” meddai.
“Mae gwneud dur yn gonglfaen i’n polisi diwydiannol modern, sy’n canolbwyntio’n fwriadol ar gefnogi diwydiannau allweddol, technolegau a sectorau strategol pwysig.”
'Ergyd arall'
Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK: “Mae Llafur a'r Ceidwadwyr wedi goruchwylio dad-ddiwydiannu yng Nghymru.
“Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhy ychydig, ac yn rhy hwyr.”
Dywedodd ysgrifennydd busnes cysgodol y Ceidwadwyr, Andrew Griffith: "Mae codi cost dur sy’n cael ei fewnforio yn golygu mwy o gost i'r diwydiant adeiladu, a llai o fuddsoddiad mewn seilwaith.
“Mae'n ergyd arall i nifer y cwmnïau sy'n gwneud pethau yn y DU."
Dywedodd Llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros Gymru, David Chadwick AS, ei fod yn croesawu bod Llywodraeth y DU wedi gweithredu "o'r diwedd".
“Ond mae hyn yn edrych fel panig gan lywodraeth sombiaidd ar ôl misoedd o oedi," meddai.
“Ers i’r ffwrneisi chwyth gael eu diffodd, mae dur Cymru wedi cael ei adael ar system cynnal bywyd."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr Economi ac Ynni, Luke Fletcher AS: “Mae un peth fydd gweithwyr dur yng Nghymru yn edrych allan am yn y strategaeth hon, a hynny yw’r arian fydd yn dod i Gymru o’r arian ychwanegol a beth mae hynny’n ei olygu i ddyfodol y diwydiant.
“Mae’r diwydiant dur Cymreig wedi cael ei siomi gan lywodraethau olynol, gyda miloedd yn colli eu swyddi. Mae’n hollbwysig fod Llywodraethau Cymru a’r DU nawr yn cefnogi’r sector, ac i ail-adeiladu ymddiriedaeth gyda gweithwyr dur yma yng Nghymru.”
Mae Newyddion S4C hefyd wedi holi'r Blaid Werdd am eu hymateb.
Dywedodd Charlotte Brumpton-Childs, ysgrifennydd cenedlaethol undeb GMB: “Roedd GMB wedi bod yn galw am strategaeth ddur ers amser maith, felly mae’n dda bod gennym ryw fath o gynllun erbyn hyn.”
Llun: Peter Kyle yn ystod ymweliad â ffatri Tata Steel ym Mhort Talbot