Argymell gwrthod cynllun i ddymchwel cyn gartref gofal yng Nghricieth
Mae swyddogion awdurdod lleol wedi argymell gwrthod cynllun i ddymchwel cyn gartref gofal gyda'r bwriad o adeiladu fflatiau i bobl hŷn yng Nghricieth yng Ngwynedd.
Daw'r argymhelliad yn dilyn gwrthwynebiad lleol, gyda rhai yn dweud y byddai'r datblygiad yn denu mwy o ddieithriaid i'r ardal.
Mae'r cais cynllunio i ddymchwel cyn gartref gofal Plas Newydd ar Stryd Fawr y dref yn cynnwys creu naw fflat byw annibynnol gyda gwasanaethau gofal ychwanegol ar gyfer pobl dros 55 oed, ac mae'n cael ei ddisgrifio fel cynllun 100% fforddiadwy.
Mae'r datblygwyr yn dadlau y gallai wneud "cyfraniad ystyrlon at y strategaeth dai leol" drwy gefnogi trigolion hŷn nad ydynt efallai'n gymwys ar gyfer tai cymdeithasol ond sy'n methu â chael mynediad at dai marchnad agored.
Er hynny, mae nifer o bobl leol yn anhapus gyda'r cynllun i ddymchwel yr adeilad, tra bod eraill yn ofni y gallai "ddenu mwy o ddieithriaid" i'r ardal.
Mae cynllunwyr Cyngor Gwynedd yn dweud nad yw'r cynllun yn bodloni rhai polisïau, ac wedi argymell gwrthod y cais.
Bydd pwyllgor cynllunio'r cyngor yn ystyried y cais llawn ddydd Llun, 23 Mawrth.
'Effaith andwyol'
Nid yw'r adeilad tri llawr wedi bod yn gweithredu fel cartref gofal ar ôl iddo gael ei ddadgomisiynu ym mis Ionawr 2024.
Mae'r cynllun yn cynnwys codi adeilad pedwar llawr, ychydig yn dalach na'r adeilad presennol, wedi'i osod ymhellach yn ôl o'r ffordd.
Cafodd y cais ei gyflwyno gan Meddyg Care Group Holdings Ltd sy'n dweud y byddai'r cynllun yn darparu "cyfle cynaliadwy i ddarparu cynllun Byw Annibynnol Gofal Ychwanegol o ansawdd uchel i breswylwyr 55 oed a throsodd".
Byddai'r naw fflat un ystafell wely "cwbl fforddiadwy" yn cael eu cynllunio i gefnogi ffordd o fyw annibynnol gyda mynediad at ofal a chyfleusterau cymunedol.
Mae'r cwmni'n dweud y byddai'n disodli "adeilad heb ei ddefnyddio'n ddigonol gyda datblygiad modern, effeithlon o ran ynni sy'n bodloni safonau tai a gofal cyfredol".
'Mwy o ddieithriaid i'r ardal'
Ond mae nifer o wrthwynebiadau gan y cyhoedd wedi mynegi pryderon am y cynllun i ddymchwel yr adeilad a'i effaith ar breswylwyr gerllaw.
Dywedodd rhai y byddai'r dref yn colli "adeilad o ansawdd a chymeriad sy'n cyd-fynd" ag adeiladau cyfagos, tra bod eraill yn teimlo nad oedd angen ei ddatblygu oherwydd nifer y cartrefi i'r henoed sydd eisoes yng Nghricieth.
Roedd pryderon hefyd y byddai'r cynllun yn "denu mwy o ddieithriaid i'r ardal", ac roedd rhai'n poeni am uchder yr adeilad, gan ddweud bod y dyluniad "yn cyflwyno nodwedd anghydweddol sy'n mynd yn erbyn y patrwm datblygu presennol".
Fe wnaeth swyddogion Diogelu'r Cyhoedd fynegi pryderon am y broses ddymchwel ac adeiladu, gan alw am gynllun manwl am lefelau sŵn a llwch.
Fe wnaeth y gwasanaethau cymdeithasol godi cwestiynau hefyd am ba mor fforddiadwy fyddai'r unedau i drigolion lleol.
Daeth cynllunwyr i’r casgliad y byddai’r cynllun yn "niweidiol yn weledol i'r ardal leol a chyd-destun y safle", er bod "elfennau’r cynnig yn dderbyniol".
Ychwanegon nhw: "Byddai hefyd, yn seiliedig ar ei leoliad, ei faint a’i nodweddion, yn effeithio’n andwyol ar drigolion cyfagos. Felly, nid ydym yn credu bod y cynnig fel y mae wedi ei chyflwyno yn dderbyniol nac yn cydymffurfio â gofynion y polisïau a’r canllawiau perthnasol."
