Trump yn addo ymateb 'anferth' os yw Iran yn ymosod eto ar faes nwy Qatar
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi rhybuddio Iran i beidio ag ymosod eto ar brif ganolfan nwy Qatar i ddial am ymosodiad gan Israel ar un o'u canolfannau nwy eu hunain neu fe fydd yr ymateb gan America yn un “anferth”.
Doedd yr Unol Daleithiau ddim yn gwybod y byddai Israel yn ymosod ar brif ganolfan nwy Iran, South Pars, yn ôl Donald Trump.
Ond dywedodd yr Arlywydd mewn neges ar gyfrwng Truth Social y byddai America yn "difrodi" South Pars “yn llwyr” os oedd Iran yn parhau i daro Ras Laffan yn Qatar.
Mae South Pars yn rhan o faes nwy naturiol mwyaf y byd sy’n ymestyn rhwng tiriogaeth Qatar ac Iran.
Mae Qatar ac Iran yn gweithredu cyfleusterau prosesu nwy yn yr ardal, gyda Ras Laffan yn Qatar ac Assaluyeh ar ochr Iran.
Fe achosodd yr ymosodiad ar Ras Laffan "ddifrod helaeth" ond nid oedd unrhyw anafiadau, yn ôl cwmni petrolewm Qatar sy’n eiddo i’r wladwriaeth.
Mae yna bryderon y gall prisiau ynni godi yn sylweddol eto yn sgil yr ymosodiadau.
Nid yw Israel wedi cynnig sylw eto.
Lansiodd Iran ymosodiadau ar sawl gwlad yn y Gwlff ar ôl i South Pars gael ei tharo, gan gynnwys Qatar, Saudi Arabia a’r Emiradau Arabaidd Unedig.
Mae Gweinidog Cartref Qatar wedi dweud bod pob tân yng nghyfleuster ynni Ras Laffan bellach dan reolaeth heb unrhyw anafiadau wedi’u hadrodd.
Mewn datganiad ar X, dywedodd Qatar fod y gwaith o ddiogelu’r safle yn parhau, gyda deunyddiau peryglus yn cael eu trin gan uned arbenigol.
Yn y cyfamser, mae’r Pentagon wedi gofyn i’r Tŷ Gwyn gymeradwyo mwy na $200bn (£151bn) er mwyn ariannu’r rhyfel yn Iran, yn ôl y Washington Post.
Mae’r papur newydd yn dweud mai’r nod fyddai cynhyrchu arfau hanfodol a hynny fel mater o frys.