Ffrwydro hen ordnans ar draeth yng Ngheredigion
Cafodd hen ordnans ei ffrwydro ar draeth yng Ngheredigion ddydd Iau er mwyn sicrhau nad oedd yn peryglu'r cyhoedd.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau Borth eu bod wedi eu galw am 11:00 ddydd Mercher yn dilyn adroddiad am ordnans ar draeth Ynyslas.
Gan ei fod ar linell y llanw isel, fe wnaeth y tîm, ynghyd â Gwylwyr y Glannau Aberystwyth, leoli a thynnu llun o'r ordnans, gan anfon y manylion at yr Uned Gwaredu Ordnans Ffrwydrol i gael eu barn.
Erbyn bore dydd Iau roedd y ddyfais wedi ei gorchuddio gan y llanw.
Aeth Gwylwyr y Glannau Borth ati i ddarparu cordon diogelwch ar y traeth er mwyn i'r Uned Gwaredu Ordnans Ffrwydrol ei danio.
Mewn datganiad, dywedodd Gwylwyr y Glannau: "Mae llawer o eitemau o ordnans wedi'u golchi i fyny ar y traethau yn lleol.
"Os gwelwch unrhyw beth rydych chi'n amau ei fod yn ordnans, PEIDIWCH â'i godi na'i symud.
"Ffoniwch 999, gofynnwch am Wylwyr y Glannau a rhowch leoliad mor benodol ag y gallwch."