‘Mewn cyflwr ofnadwy’: Elusen yn galw am achub adeilad Gwasg Gee

Gwasg Gee

Mae adeilad gwag gwasg a chwaraeodd ran flaenllaw yn hanes yr iaith Gymraeg wedi ei gynnwys ar restr o adeiladau o werth hanesyddol sydd dan fygythiad gwirioneddol.

Roedd Gwasg Gee yn Ninbych wedi cynhyrchu papur newydd Baner ac Amserau Cymru a nifer o weithiau llenyddol pwysicaf y Gymraeg yn yr 19eg a’r 20fed ganrif o'u swyddfa ar Stryd y Capel y dref.

Mae’r adeilad rhestredig Gradd II bellach wedi ei ychwanegu ar restr o 10 eiddo o bwys hanesyddol sydd dan fygythiad gwirieddol gan yr elusen Save Britain’s Heitage, wrth iddyn nhw nodi eu 50fed penblwydd eleni.

Dywedodd yr elusen bod yr adeilad mewn cyflwr “ofnadwy a’n parhau i ddirywio”.

Sefydlwyd y busnes argraffu gan Thomas Gee ym 1830 a dilynwyd ef gan ei fab, Thomas, a chwaraeodd rhan flaenllaw yng ngwleidyddiaeth ymneilltuol a Rhyddfrydol y cyfnod.

Prynwyd Gwasg Gee gan yr awdur Kate Roberts a’i gŵr Morris T Williams yn yr 1930au. 

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Sir Ddinbych ddydd Gwener: "Yn dilyn tywydd garw, bu cwymp mawr yn rhan flaen yr adeilad yn 2022.

 “Bu’n rhaid i Gyngor Sir Dinbych ymyrryd i wneud gwaith brys i wneud yr adeilad yn ddiogel ac atal cwymp pellach.

"Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn gwneud cais am gyllid i wneud mwy o waith i atal dirywiad pellach yr ased hanesyddol pwysig hwn."

Sefydlwyd cwmni yn y 1950au i geisio achub Gwasg Gee ond fe ddaeth i ben yn 2001 ac mae'r adeiladau yn Stryd y Capel wedi bod yn wag byth ers hynny. 

Pan gaeodd dim ond chwech o weithwyr oedd yno a dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr ar y pryd, Emlyn Evans: "Y gobaith yw y bydd Cyngor Sir Dinbych yn cymryd drosodd yr adeilad a bydd pobl y Loteri Dreftadaeth yn gwneud y newidiadau angenrheidiol ar gyfer amgueddfa argraffu genedlaethol."

Fis Gorffennaf 2022, fe gwympodd rhan sylweddol o do a thrydydd llawr yr adeilad i’r stryd gerllaw, gan orfodi’r cyngor i gynnal gwaith ar unwaith gan fod cyflwr yr adeilad yn beryglus ac yn “peri risg i fywyd”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.