Cyhuddo dyn a wnaeth ffoi rhag yr heddlu ym Mangor
Mae dyn wnaeth ffoi rhag yr heddlu ym Mangor wedi ei gyhuddo ar ôl cael ei arestio yn gynharach yr wythnos hon.
Mae Jerry Berry, 39, sydd heb gartref sefydlog, wedi ei gyhuddo o sawl trosedd gan gynnwys troseddau gyrru ar ôl y digwyddiad ym Mangor ddydd Iau, 10 Gorffennaf.
Fe wnaeth o hefyd yrru ar ôl cael ei ddiarddel rhag gwneud hynny ddydd Mercher, 16 Gorffennaf.
Mae hefyd wedi ei gyhuddo o bum achos o fyrgleriaeth o gartrefi, ac un achos o fyrgleriaeth o adeilad masnachol.
Cafodd y troseddau rheini yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Gaer eu hadrodd rhwng 24 Mehefin a 15 Gorffennaf.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa i ymddangos gerbron Llys Ynadon yr Wyddgrug ddydd Gwener.
Fe fydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ar 15 Awst.