Ysgrifennydd Cymru'n credu ei fod wedi colli ei sedd yn Sir Fynwy
Mae Ysgrifennydd Cymru'n dweud ei fod wedi colli ei sedd, yn dilyn cyhoeddi canlyniad pôl piniwn ar ddiwedd y pleidleisio ddydd Iau.
Dywedodd David TC Davies mewn cyfweliad gyda'r BBC ei fod yn credu bod yr ymgeisydd Llafur yn Sir Fynwy, Catherine Fookes, am fod yn fuddugol.
Dywedodd Mr Davies: "Rwyf wedi cael cefnogaeth wych gan y gangen yn lleol, ond y ffaith yw bod pobl eisiau newid.
"Dyna'r ffordd y mae'n mynd gyda democratiaeth. Fi fydd y cyntaf i gydnabod y bydd buddugoliaeth anferth am fod i Lafur ac yn sicr ni fyddaf yn y Senedd ar ddiwedd y noson a rwy'n rhoi hynny ar gofnod."
Ond mae'r arolwg barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio yn awgrymu ei fod wedi cadw gafael ar yr etholaeth - sedd y mae wedi ei chynrychioli ers 2005.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones bod angen bod yn ofalus gyda'r arolwg.
"Mi wnes i ddweud ar y cychwyn ar ôl gweld y rhagolwg bod yn rhaid i ni fod yn ofalus," meddai.
"Mae beth ydan ni'n ei glywed o Fynwy yn tanlinellu bod angen i ni fod yn ofalus."
Yn ôl pôl piniwn Ipsos ar gyfer ITV/Sky/BBC mae’r Ceidwadwyr yn wynebu chwalfa wleidyddol na welodd y blaid ei bath erioed.