Y daith i Gymru a newidiodd bywyd menyw o Japan

Chikako Hirono

"Cefais fy ngeni ar Ddydd Gŵyl Dewi, felly dwi'n meddwl mai ffawd sydd wedi dod â fi i Gymru."

Pan aeth Chikako Hirono i Gaerdydd 36 mlynedd yn ôl fyddai hi ddim wedi gallu dychmygu'r effaith y byddai'r daith yn ei gael ar ei bywyd.

Fe deithiodd i Gaerdydd fel rhan o raglen cyfnewid ddiwylliannol ac yn addysgu plant yn Ysgol Sant Nicholas yn y brifddinas am Japan a'i diwylliant yn 1990.

Cwympodd Chikako mewn cariad â Chymru ac erbyn hyn mae'n Llywydd Cymdeithas Dewi Sant Kansai, cymdeithas wnaeth hi sefydlu, ac yn trefnu digwyddiadau i "hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru".

Bwriad y ddynes 65 oed oedd aros yng Nghymru am chwe mis, ond fe arhosodd am bron i flwyddyn gan ei bod yn mwynhau treulio amser yn y wlad.

"Roedd fy nghytundeb gyda'r ysgol am chwe mis, ond roeddwn i wedi ymestyn hynny i bron i flwyddyn ac yn aros gyda theuluoedd gwahanol," meddai wrth Newyddion S4C.

"Dyna oedd dechrau fy nghysylltiad gyda Chymru, a doeddwn i ddim yn gwybod unrhyw beth am y wlad cyn teithio yno.

"Ond trwy dreulio amser gyda phobl leol yn yr ysgol ac yn eu cartrefi, roeddwn i'n cwympo mewn cariad gyda Chymru ac roedd Caerdydd yn ail gartref i mi.

"Yn y 1990au cwpl o lefydd yn unig am Gymru oedd yn rhan o lyfrau i dwristiaid, felly yn fy amser sbâr roeddwn i'n mynd i'r Alban a Llundain.

"Ond wedyn dechreuais mynd i lefydd gwahanol yng Nghymru.

"Y tro cyntaf i mi fynd i Eryri roedd y lle mor hardd ag roeddwn i'n siomedig yn fy hun bod fi heb fynd yn gynt. Ond nawr roeddwn i'n sylwi bod dim angen i fi deithio i'r Lake District!"

Mae Chikako wedi treulio llawer o amser yng Nghymru, ac mae bellach yn byw yn ei dinas enedigol, Osaka.

Yn 2000 roedd hi'n un o sylfaenwyr Cymdeithas Dewi Sant Kansai, sydd â'r bwriad o "gyflwyno Cymru a diwylliant Cymreig i'r cyhoedd yn Japan."

Image
Rhai o aelodau'r gymdeithas yn cefnogi Cymru yn ystod ymweliad ym mis Gorffennaf y llynedd
Rhai o aelodau'r gymdeithas yn cefnogi Cymru yn ystod ymweliad ym mis Gorffennaf y llynedd.

Dros y 26 mlynedd diwethaf mae'r gymdeithas wedi cynnal amryw o ddigwyddiadau, o wersi Cymraeg, teithiau rhithiol o'r brifddinas a chynnal gŵyl Gymreig ei hunain.

"Yn anffodus nid oes llawer o bobl yn Japan yn gwybod am Gymru, llawer llai na beth mae pobl yng Nghymru yn meddwl," dywedodd Chikako.

"Roeddem yn cynnal gŵyl ddiwylliant Cymreig pobl blwyddyn tan pandemig Covid.

"Erbyn hyn rydym yn cynnal darlithoedd, gweithdai coginio cacen gri a gwahodd corau meibion i ganu caneuon gan gynnwys Hen Wlad Fy Nhadau.

"Rydym eisiau cyflwyno cymaint o bobl â phosib i Gymru a'i diwylliant, ac ers Covid rydym wedi symud rhai pethau ar-lein.

"Ar ôl gwneud hynny roeddem wedi sylweddoli bod cymaint o bobl ledled Japan gyda diddordeb yng Nghymru."

Mae gan y Gymdeithas tua 50 o aelodau ar hyn o bryd, gyda nifer o bobl eraill yn mynychu digwyddiadau sydd wedi eu trefnu gan y gymdeithas.

'Pont rhwng dwy wlad'

Nid pobl Japan yn unig sydd yn elwa o waith Chikako gyda'r gymdeithas.

Am sawl blwyddyn mae hi wedi gwahodd pobl o Gymru i aros yn ei chartref yn Osaka, ac am bythefnos ar ddiwedd 2025 roedd Lowri Mair Williams o Aberdesach yng Ngwynedd wedi aros gyda hi.

Mae cysylltiad Chikako gyda Lowri yn mynd yn ôl i'w chyfnod yng Nghaerdydd yn 1990.

"Roedd fy modryb wedi bod yn dysgu yn yr un ysgol ar yr un pryd yn y cyfnod hwnnw, roedd y cyswllt rhwng fi a Chi yn un personol ac arbennig iawn," meddai Lowri wrth Newyddion S4C.

"Er ei bod hi’n byw dros 9,000 milltir i ffwrdd, mae’n amlwg ei bod hi’n falch iawn o’i chysylltiad â Chymru ac yn awyddus i gadw’r traddodiadau a’r ymwybyddiaeth o Gymru yn fyw yn Japan."

Yn ystod ei hamser yn Japan roedd Lowri wedi mynychu rhai digwyddiadau a gafodd eu trefnu gan y gymdeithas.

Yr uchafbwynt oedd cyngerdd a chael cyfle i wrando ar anthem genedlaethol Cymru - gyda dylanwad Japaneaidd ar y gân.

"Mi ges i fynychu cyngerdd piano gyda rhaglen o gerddoriaeth gan gyfansoddwyr Cymreig fel Karl Jenkins a Morfudd Owen.

"Yr uchafbwynt oedd clywed ein hanthem yn cael ei chanu, y tro cyntaf imi ei phrofi fel hyn - o fewn pedair wal mewn gwesty moethus, ar ochr arall i’r byd, yn cael ei pherfformio gan gantores opera Japaneaidd gyda mymryn o liwio unigryw wedi ei phlethu ymysg y geiriau a’r nodau. 

"Roedd pŵer yr anthem yn amlwg, ac fel pob Cymry, mae’r anthem yn destun balchder, ac felly roedd peidio ag ymuno yn y canu yn deimlad anarferol a chwerwfelys iawn.

Ychwanegodd Lowri: "Mae Chi yn fwy nag llysgennad diwylliannol - mae hi fel pont rhwng dwy wlad.

"Er bod ei gwreiddiau yn Japan, mae ei chalon yng Nghymru ac mae hi’n gweld balchder drwy greu cysylltiadau, ysbrydoli chwilfrydedd a dangos sut y gall berson fod yn rhan o fwy nag un hunaniaeth ar yr un pryd."

Image
Lowri gyda Chikako yn un o ddigwyddiadau'r Cymdeithas Dewi Sant Kansai
Lowri gyda Chikako yn un o ddigwyddiadau'r Cymdeithas Dewi Sant Kansai

Wrth edrych ymlaen at 2026 mae Chikako yn gobeithio denu mwy o bobl i'r gymdeithas.

Er mwyn gwneud hynny mae hi'n gofyn i'r aelodau pa weithgareddau y hoffai nhw eu gwneud a pa lefydd yng Nghymru maen nhw eisiau eu gweld.

"Rydym bob tro yn ystyried pa elfennau o Gymru fydd o ddiddordeb  i bobl Japan a cheisio darparu hynny iddyn nhw," meddai.

"Rydyn ni'n gofyn iddyn nhw beth hoffen nhw ei wybod, beth hoffen nhw ei weld oherwydd rydyn ni'n cyflwyno gwlad â diwylliant gwahanol i'n cenedl.

"Mae pobl sy'n caru rygbi eisiau gwybod mwy am rygbi Cymru, mae rhai'n caru natur ac eisiau gwybod mwy am barciau cenedlaethol a'r golygfeydd prydferth.

"Felly mae'n bwysig ein bod ni'n tynnu sylw at bob agwedd ar Gymru i gyd-fynd â'u diddordebau, fel arall bydd Cymru'n dod yn wlad arall yn unig.

"Rwy'n hoffi gwneud hyn, er y gall fod yn flinedig iawn weithiau, ond dwi'n gwneud e achos fy mod i'n caru Cymru."



 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.