Deddf Owain: Llywodraeth y DU yn addo ystyried cais gwraig weddw

Deddf Owain

Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud y bydd yn archwilio y trefniadau presennol wedi i wraig weddw o Gaerffili alw am newidiadau i driniaeth canser wedi marwolaeth ei gŵr.

Mae Ellie James yn dweud bod “loteri cod post” yn bodoli ar hyn o bryd wrth drin pobl sy’n dioddef o diwmor ar yr ymennydd.

Bu farw gŵr Mrs James, Owain, yn 2024 wedi iddo ddioddef o fath o diwmor ar yr ymennydd o’r enw glioblastoma.

Mae Mrs James yn ymgyrchu er mwyn ceisio sicrhau bod gan gleifion yr hawl i rewi eu meinweoedd a’u storio ar ôl llawdriniaethau er mwyn eu defnyddio mewn triniaeth yn y dyfodol.

Mae’n galw am newid yn y gyfraith, sef Deddf Owain, a fyddai’n caniatáu i gleifion gael penderfynu beth sy’n digwydd i’w meinweoedd.

Mewn dadl yn Senedd San Steffan dywedodd Ashley Dalton, Is-ysgrifennydd Seneddol y Wladwriaeth dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y bydd y llywodraeth yn “ystyried unrhyw newidiadau yn ofalus”.

“Rwy'n hapus i gysylltu â'r llywodraethau datganoledig ar y mater hwn,” meddai.

“Ac rwy'n ymrwymo heddiw i archwilio ymhellach y trefniadau presennol ar gyfer rhewi meinweoedd a'r opsiynau ar gyfer newid, yn enwedig ar gyfer meinweoedd tiwmor yr ymennydd.”

Roedd yr AS dros Gaerffili, Chris Evans, wedi codi’r pwnc ar ran Ellie James mewn dadl yn San Steffan ddydd Mercher.

“Mae galar teulu Ellie ac Owain yn aruthrol ac yn amhosib ei ddeall,” meddai.

“Fodd bynnag, allan o alar gall newid mawr ddigwydd, ac rwy'n rhoi teyrnged i Ellie am ei phenderfynoldeb wrth droi ei galar yn rhywbeth cadarnhaol a all helpu eraill.”

Deddf Owain

Cafodd Owain James ddiagnosis o ganser yr ymennydd ym mis Medi 2022.

Roedd ganddo diwmor 14cm o faint. Fe lwyddodd meddygon i dynnu hanner o’r tiwmor yn ystod llawdriniaeth. Wedi’r llawdriniaeth honno, fe wnaeth ei deulu godi arian er mwyn iddo allu derbyn triniaeth bersonol.

Ond wrth siarad cyn y ddadl yn San Steffan, dywedodd Mrs James: “Yr hyn na wnaethom ni sylweddoli ar y pryd oedd bod angen defnyddio meinwe tiwmor, oedd wedi’i rewi’n ffres, er mwyn iddo gael y brechlyn hwnnw.”

Cafodd 6cm o’i diwmor ei roi mewn cemegyn oedd yn golygu nad oedd modd ei ddefnyddio ar gyfer ei driniaeth.

“Roedd hynny’n golygu mai dim ond darn bach iawn o feinwe oedd ar gael i wneud y brechlyn hwn,” meddai.

“Y mwyaf o feinweoedd sydd gennych chi ar gyfer creu’r brechlyn, y mwyaf o frechlynnau y gallwch chi eu cael.

“Ond gan mai ychydig iawn oedd ganddo, dim ond tri brechlyn a gafodd, pan ddylai fod wedi cael tua 30 mewn gwirionedd.”

Fe dderbyniodd Mr James y brechlynnau oedd ganddo, yn ogystal â llawdriniaethau, cemotherapi a radiotherapi, ac fe ddiflannodd gweddill y tiwmor am gyfnod.

“Yn anffodus, naw mis yn ddiweddarach, daeth y tiwmor yn ôl ac doeddwn ni ddim yn gallu cael mwy o’r brechlyn,” meddai Mrs James.

Pe baen nhw wedi derbyn 30 o frechlynnau yn y lle cyntaf, mae’n dweud y byddai ei gŵr “yn debygol o fod yma heddiw”.

Mae bellach yn benderfynol o sicrhau bod gan gleifion yr hawl i ddewis beth sy’n digwydd i’w meinweoedd.

“I mi, mae Deddf Owain yn ymwneud yn syml â rhoi’r hawl i bobl i ddewis a chael opsiynau,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.