Aelodau'r Senedd yn cefnogi'r Llywydd wedi ymgais Reform i'w ddiswyddo
Mae cynnig Reform Cymru i gyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder yn Llywydd y Senedd, Huw Irranca-Davies wedi ei drechu nos Fawrth.
Wedi areithiau angerddol a thanllyd yn y Siambr, gwrthododd 55 aelod y cynnig. Roedd 29 aelod Reform o blaid y cynnig.
Dychwelodd Reform Cymru i'r Siambr ym Mae Caerdydd brynhawn Mawrth, ar ôl boicot sydd wedi para bron bythefnos.
Cyn dychwelyd yno, dywedodd eu harweinydd, Helen Jenner mewn datganiad, y bydde nhw'n cyflwyno cynnig o bleidlais o ddiffyg hyder yn Llywydd y Senedd, Huw Irranca-Davies.
Roedd y blaid wedi cadw draw o'r Siambr, ar ôl i un o aelodau'r blaid gael ei wahardd rhag siarad ar ôl iddo honni bod pobl wyn o Brydain yn cael eu disodli.
Cafodd Joe Martin, AS Reform UK, ei wahardd ar 10 Tachwedd ar ôl i'r Llywydd, Huw Irranca-Davies ddisgrifio ei sylwadau fel rhai “gwahaniaethol” a “sarhaus”.
Cymeradwyaeth
Yn ei araith swmpus cyn y bleidlais o ddiffyg hyder ynddo yn y Siambr nos Fawrth, dywedodd y Llywydd Huw Irranca-Davies: “Mae rhyddid i lefaru’n bwysig. Mae’r hawl i anghytuno’n bwysig. Mae craffu’n bwysig. Mae herio’n bwysig.
“Ond mae rheolau’n bwysig hefyd. Mae safonau’n bwysig. Mae ymddygiad yn bwysig. Mae’r Rheolau Sefydlog yn bwysig, a does dim un aelod, dim un blaid na neb sy’n dal swydd uwchlaw’r rheolau hynny.
“Rhaid i’r aelodau benderfynu a yw democratiaeth seneddol yn dibynnu ar reolau rydyn ni wedi cytuno arnyn nhw ac sy’n gyfartal i bawb, neu a yw’n dibynnu ar unigolion sydd ond yn fodlon cadw at y rheolau pan fyddan nhw’n digwydd cytuno â nhw.
“Os mai’r ail sy’n wir, ni all yr un senedd oroesi, gan gynnwys y Senedd hon. Os mai’r cyntaf sy’n wir, dylai’r cynnig hwn gael ei wrthod.”
Ar ddiwedd ei araith, fe safodd aelodau'r Senedd ar eu traed, ag eithrio aelodau Reform, gan gymeradwyo.
Wrth agor y drafodaeth nos Fawrth, dywedodd arweinydd Reform, Helen Jenner: “Mae rhyddid i lefaru’n hanfodol mewn democratiaeth. Ac ydy, os ydych chi’n cefnogi rhyddid i lefaru, mae’n rhaid i chi fod yn barod i wrando ar syniadau rydych chi’n anghytuno â nhw.
“Rwy’n derbyn bod rhai pobl wedi camddeall yn llwyr yr hyn roedd Joe Martin yn ei ddadlau yn y Siambr hon. Byddwn i’n dadlau bod rhai wedi gwneud hynny’n fwriadol, ond does dim bai o gwbl arno fe am hynny.
“Roedd Joe, a dweud y gwir, yn barod i gydnabod hynny, ond doedd e ddim yn barod i ymddiheuro am siarad ar ran pleidleiswyr. Yn ein barn ni, roedd e’n glir ynghylch sut mae mewnfudo’n newid cyfansoddiad poblogaeth Prydain.
“Roedd penderfyniad y Llywydd yn arbennig o annisgwyl o gofio bod yr un geiriau wedi cael eu defnyddio yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi heb i Lywyddion y ddau Dŷ gosbi neb am eu defnyddio. Mae hynny am eu bod nhw’n amlwg yn gwerthfawrogi hawl aelodau i siarad yn rhydd yn y siambrau hynny.
“Mae’n drist gen i ddweud nad yw’r Llywydd hwn yn gwerthfawrogi’r hawl honno, ac am y rheswm hwnnw rydyn ni wedi colli hyder ynddo.”
'Haeddu cael eu herio'
Dywedodd Carrie Harper AS, a oedd yn ymateb i’r ddadl ar ran Plaid Cymru, “Yn ôl y cyfrifiad diwethaf, roedd 94% o bobl Cymru yn disgrifio’u hunain fel pobl wyn.
“Ond beth bynnag am hynny, ers pryd mae lliw croen rhywun yn penderfynu a ydyn nhw’n perthyn i Gymru ai peidio? A beth am bobl sy’n Gymry ond sydd ddim yn wyn?
“Beth am bobl sy’n Gymry ond sydd ddim yn wyn, fel aelodau o fy nheulu i? Ydyn nhw’n cymryd ein lle ni? Mae damcaniaeth cynllwyn y ‘disodli mawr’ yn portreadu newid demograffig fel ymgais fwriadol i ddisodli...
“Mae damcaniaeth y ‘disodli mawr’ yn portreadu newid demograffig fel ymgais fwriadol i ddisodli poblogaethau gwyn. Ac mae hanes y syniadau hyn yn peri pryder mawr.
“Ac mae iaith sy’n adleisio’r syniadau hynny’n haeddu cael ei herio, oherwydd mae hanes hefyd yn dweud wrthyn ni i ble mae hyn yn arwain.
“Cafodd mwy na 6,000 o droseddau casineb eu cofnodi yng Nghymru y llynedd. Allwn ni ddim esgus nad oes gan eiriau gwleidyddion ganlyniadau y tu hwnt i’r waliau hyn.”