Llafur yn y Senedd eisiau 'siarad ar y cyd' â Phlaid Cymru dros ragor o bwerau

Ken Skates

Mae arweinydd Llafur yn y Senedd wedi cynnig ymuno â’r trafodaethau gyda San Steffan er mwyn “siarad â’n gilydd” gyda Phlaid Cymru o blaid rhagor o bwerau.

Daw sylwadau Ken Skates wedi i Brif Weinidog Llafur y DU wrthod galwadau i ddatganoli pwerau dros seilwaith y rheilffyrdd, plismona a chyfiawnder, ac Ystâd y Goron i Gymru.

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ei fod am arwain "cynghrair newydd" i ymladd dros ddatganoli pellach.

Wrth ymateb, dywedodd Mr Skates ei fod yn “awyddus iawn, ar ôl profi'r trafodaethau yma dros sawl blwyddyn, i ymuno yn y trafodaethau fel ein bod ni’n gallu siarad â’n gilydd dros y mwyafrif yn y Senedd yma”.

Ond rhybuddiodd “nad oedd cynnydd cyfansoddiadol yn digwydd yn aml drwy gyfnewid ambell lythyr”.

“Fe wnaethon ni sicrhau datganoli pellach drwy flynyddoedd o drafod, negodi a dal ati,” meddai.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru ei bod yn “siom enfawr” fod Prif Weinidog y DU yn gwrthod archwilio’r posibilrwydd o ddatganoli pellach.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth wrth y Senedd: “Mae'n bryd dweud ‘ie’ dros Gymru unwaith eto. 

“Ac mae'r Llywodraeth yma’n barod i gynnull ac arwain cynghrair newydd. 

“Dw i’n credu y bydd cynghrair o’r fath yn dod at ei gilydd, wedi’i gwreiddio yn y gred syml ond bwerus mai pobl Cymru, drwy’r cynrychiolwyr y maen nhw wedi’u hethol yn ddemocrataidd, ddylai benderfynu dyfodol cyfansoddiadol Cymru.

“Mi fydda i rŵan yn aros am ymateb y Prif Weinidog ac yn gobeithio y bydd yn ystyried y dystiolaeth annibynnol sydd o'i flaen, heb unrhyw ymyrraeth na dylanwad gan bobl nad yw lles pennaf Cymru yn flaenoriaeth iddyn nhw.”

Dywedodd arweinydd Reform yng Nghymru, Helen Jenner, fod gan y Prif Weinidog “eisoes rymoedd anferth dros y pethau sydd fwyaf o bwys ym mywydau pobl”.

“Fy neges i i’r Prif Weinidog yw i ganolbwyntio ar ei swydd dydd i ddydd,” meddai.

“Gwnewch yn siŵr bod y grymoedd sydd gennych chi yn gweithio, a rhoi’r gorau i annog Andy Burnham i roi ein grymoedd i’r Undeb Ewropeaidd.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.