Llyn Geirionydd: Dyn 21 oed wedi boddi ar ôl gwrthod gwisgo siaced achub

Rowan Booth

Mae cwest wedi clywed bod padlfyrddiwr a wnaeth foddi mewn llyn yn Eryri wedi gwrthod gwisgo siaced achub.

Bu farw Rowan Booth, 21 oed, o Brestatyn, yn ystod ymweliad â Llyn Geirionydd ar 7 Gorffennaf eleni.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan dîm achub tanddŵr yr heddlu ar ôl ymgyrch chwilio helaeth.

Clywodd y cwest yn Rhuthun fod Mr Booth wedi bod yn padlfyrddio gyda grŵp o ffrindiau ar y llyn.

Dywedodd un ohonynt, Rebecca Walker, wrth yr heddlu bod ei merch wedi bod yn rhannu padlfwrdd gyda Rowan.

Dychwelodd y grŵp i'r lan, ond aeth Rowan allan ar y dŵr unwaith eto ar ei ben ei hun, cyn syrthio oddi ar ei badlfwrdd.

Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen yn y cwest, dywedodd Ms Walker: "Roedden ni'n gallu gweld ei fod yn cael trafferth yn y dŵr."

Doedd Mr Booth ddim yn gwisgo offer diogelwch, ac nid oedd chwaith wedi'i gysylltu â'i fwrdd drwy linyn diogelwch o amgylch ei ffêr.

Roedd rhai o'i ffrindiau ac aelodau o'r cyhoedd wedi ceisio ei gyrraedd, ond heb lwyddiant.

Clywodd y cwest ddydd Mawrth mai boddi oedd achos ei farwolaeth. 

Dywedodd y patholegydd, Dr Zain Mehdi, nad oedd unrhyw dystiolaeth ei fod wedi yfed alcohol.

Daeth Kate Robertson, dirprwy grwner Gogledd Cymru Dwyrain a Chanolbarth, i'r casgliad mai marwolaeth ddamweiniol oedd hon.

'Y galon fwyaf'

Yn ystod y gwrandawiad, darllenodd ddatganiad gan fam Rowan, Helen Booth, a ddywedodd ei fod "wrth ei fodd yn helpu pobl".

Wrth roi teyrnged iddo yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd ei chwaer Madelaine: "Roedd ganddo'r galon fwyaf ac roedd wedi cyffwrdd â bywydau cymaint o bobl heb ddisgwyl dim yn ôl."

Roedd Mr Booth yn gweithio i gwmni cynnal a chadw eiddo lleol, DW Property Maintenance.

Dywedodd y cwmni: "Nid aelod gwerthfawr o’r tîm yn unig oedd e, roedd fel rhan o’r teulu. Roedd ei garedigrwydd, ei hiwmor a’i gyfeillgarwch diffuant yn gwneud gwahaniaeth i’r gweithle bob dydd."

Mae cwest llawn i farwolaeth dyn arall a wnaeth foddi yn yr un llyn ym mis Awst i'w gynnal o hyd.

Roedd Nathan Jones, 34 oed, hefyd wedi bod yn padlfyrddio pan fu farw yn Llyn Geirionydd.

Wrth agor y cwest hwnnw, dywedodd yr Uwch Grwner John Gittins ei fod yn bryderus am y tebygrwydd rhwng y ddwy farwolaeth, gan nad oedd yr un o'r dynion yn gwisgo offer diogelwch.

Dywedodd fod y marwolaethau'n ein hatgoffa o bwysigrwydd gwisgo'r offer diogelwch priodol wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.