Protestiadau yn yr Unol Daleithiau wedi i swyddog ICE saethu menyw yn farw

Renee Nicole Good

Mae protestiadau wedi eu cynnal yn ninas Minneapolis yn yr Unol Daleithiau wedi i aelod o asiantaeth gwrth-mewnfudo anghyfreithlon ICE saethu menyw 37 oed yn farw.

Dywedodd Adran Diogelwch Mewnol Llywodraeth yr Unol Daleithiau fod y ddynes, Renee Nicole Good, yn "derfysgwr treisgar" a geisiodd fwrw swyddogion yr asiantaeth â char yn y ddinas yn nhalaith Minnesota.

Mewn neges ar Truth Social, dywedodd Donald Trump fod swyddog ICE wedi cael ei daro mewn modd "ffyrnig". 

"Mae'n anodd credu ei fod yn fyw, ond mae bellach yn gwella yn yr ysbyty," ysgrifennodd.

Mae fideo o’r saethu wedi ei gyhoeddi arlein ond nid yw’n gwbwl amlwg o hwnnw pa mor agos oedd y swyddog ICE i’r cerbyd wrth iddo symud.

Mae Maer Minneapolis, Jacob Frey wedi beirniadu’r asiant ICE am “ddefnyddio grym mewn modd ddi-hid a arweiniodd at farwolaeth rhywun”.

Dywedodd Cyngor Dinas Minneapolis mai dim ond "gofalu am ei chymdogion" oedd Nicole Good pan gafodd ei saethu a'i lladd.

Gwrthododd Llywodraethwr Talaith Minnesota, Tim Walz, adroddiadau ffederal am y digwyddiad hefyd. 

Roedd yn ymgeisydd i fod yn Is-Arlywydd yn etholiad Arlywyddol yr Unol Daleithiau y llynedd.

"Peidiwch â chredu'r peiriant propaganda," ysgrifennodd Walz mewn ymateb.

"Bydd y dalaith yn sicrhau bod ymchwiliad llawn, teg a chyflym i sicrhau atebolrwydd a chyfiawnder."

Mae cannoedd o swyddogion ICE wedi cael eu hanfon i Minneapolis fel rhan o ymgyrch y Tŷ Gwyn yn erbyn mewnfudo anghyfreithlon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.