Dedfryd wedi'i gohirio i'r cyn-ddyfarnwr David Coote am greu delwedd anweddus o blentyn

david coote.jpg

Mae cyn-ddyfarnwr Uwch Gynghrair Lloegr David Coote wedi cael dedfryd wedi'i gohirio wedi iddo bledio yn euog i greu delwedd anweddus o blentyn.

Fe gafodd Coote, 43, ddedfryd o naw mis wedi ei gohirio am ddwy flynedd yn Llys y Goron Northampton ddydd Iau. 

Dywedodd erlynwyr fod y fideo dau funud ac 11 eiliad a gafodd ei ddarganfod ar laptop Coote yn dangos bachgen yn dadwisgo ei hun tan ei fod yn noeth, cyn perfformio gweithredoedd rhywiol ar ei hun.

Clywodd y llys fod y clip wedi ei ddarganfod yn dilyn ymchwiliad ar wahân i sylwadau gan Coote am gyn-reolwr Lerpwl, Jurgen Klopp, yn 2020.

Fe gafodd dyfeisiau electroneg Coote eu cymryd oddi wrtho gan yr heddlu ym mis Chwefror y llynedd.

Dywedodd y Barnwr Nirmal Shant KC wrth Coote ddydd Iau: "Rydych chi wedi cael cwymp syfrdanol."

Dywedodd wrtho fod fideos fel yr un a gafodd ei lawrlwytho ganddo yn "ymwneud â phlentyn go iawn yn cael ei gam-drin" gan ychwanegu y dylai'r rhai sy'n gwylio deunydd tebyg ystyried "y niwed o ganlyniad i hyn".

Ychwanegodd y barnwr: "Roeddech chi'n ddyn unig. Roedd gennych chi berthynas oedd newydd orffen yn ddiweddar. 

"Roedd gennych chi drafferthion iechyd meddwl ac roeddech chi'n cymryd cocên."

Fe gafodd Coote ei ddiswyddo gan gorff y Professional Game Match Officials Limited ym mis Rhagfyr 2024 wedi i fideo ohono yn rhannu sylwadau am Jurgen Klopp gael ei ryddhau.

Ym mis Hydref y llynedd, derbyniodd waharddiad wyth wythnos gan y Gymdeithas Bêl-droed yn sgil ei sylwadau am gyn-reolwr Lerpwl. 

Ym mis Ionawr, fe ddywedodd mewn cyfweliad gyda The Sun ei fod yn hoyw, a bod brwydr drwy gydol ei fywyd i guddio ei rywioldeb wedi cyfrannu at ei sylwadau am Klopp. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.