'Arwain y ffordd': Llywodraeth Cymru yn bwriadu dechrau cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig

Sian Gwenllian

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig erbyn etholiadau lleol 2027, y cyntaf yn y DU i wneud hynny.

Y nod, meddai'r llywodraeth, yw helpu mwy o bobl ledled Cymru i gymryd rhan mewn democratiaeth leol.

Bydd modd i bobl optio allan o gael eu cofrestru, ond bydd unigolion cymwys yn cael eu hychwanegu at y gofrestr etholiadol llywodraeth leol heb iddyn nhw orfod cofrestru.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian bod "Cymru yn arwain y ffordd" wrth gyflwyno'r newid.

"Bydd y rheoliadau hyn yn helpu i wella cywirdeb y gofrestr etholiadol llywodraeth leol a chynyddu nifer y bobl sydd wedi cofrestru arni, ac maent yn gam pwysig tuag at gryfhau ein democratiaeth," meddai.

"Hoffwn ddiolch i'r Comisiwn Etholiadol, Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol a'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u timau am eu cymorth amhrisiadwy i ddatblygu AVR yng Nghymru. 

"Rwy'n ddiolchgar ymlaen llaw am eu cydweithrediad parhaus wrth i ni baratoi i'w roi ar waith ar draws holl awdurdodau lleol Cymru.

"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r gymuned etholiadol i sicrhau fod y gwaith yn cael ei gyflawni'n ofalus ac yn effeithiol, gan ddarparu'r gefnogaeth angenrheidiol i bob awdurdod lleol."

Daw’r newid wedi gwerthusiad annibynnol gan y Comisiwn Etholiadol o raglenni peilot yn Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Casnewydd a Phowys.

Mae disgwyl i’r newid ddod i rym yn yr hydref.

O dan y system newydd, bydd awdurdodau lleol yn paru data er mwyn adnabod etholwyr posib, rhoi gwybod iddynt am y broses a'u hawl i optio allan, ac ychwanegu unigolion cymwys at y gofrestr etholiadol llywodraeth leol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.