Cyn-chwaraewr a rheolwr pêl-droed Cymru Terry Yorath wedi marw yn 75 oed
Cyn-chwaraewr a rheolwr pêl-droed Cymru Terry Yorath wedi marw yn 75 oed
Mae cyn-chwaraewr canol cae a rheolwr pêl-droed Cymru, Terry Yorath, wedi marw yn 75 oed ar ôl salwch byr.
Wedi ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd, fe enillodd Terry Yorath 59 o gapiau dros Gymru rhwng 1969 a 1981 ac roedd yn hyfforddwr ar ei wlad rhwng 1988 ac 1993.
Roedd hefyd yn hyfforddwr ar Abertawe a Chaerdydd am gyfnodau yn y 1990au.
Sgoriodd Yorath 11 gôl mewn 199 o ymddangosiadau i Leeds United, ei glwb proffesiynol cyntaf, mewn cyfnod o naw mlynedd o 1967 ymlaen.
Yna arwyddodd i Coventry City ac yn ddiweddarach chwaraeodd i Tottenham Hotspur, y Vancouver Whitecaps a Bradford City, cyn gorffen ei yrfa chwarae gydag ymddangosiad unigol i Abertawe.
Ar ôl rhoi’r gorau i chwarae, bu’n rheolwr ar Abertawe, Cymru, Bradford, Caerdydd, Lebanon, Sheffield Wednesday a Margate am gyfnodau.
Enillodd ddyrchafiad gydag Abertawe i'r Drydedd Adran yn 1988, ac roedd un gêm o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 1994 gyda Chymru.
"I'r rhan fwyaf, roedd yn arwr pêl-droed uchel ei barch, ond i ni, roedd yn Dad; dyn tawel, caredig a thyner,” meddai plant Terry Yorath mewn datganiad.
“Mae ein calonnau wedi torri ond rydym yn cymryd cysur gan wybod y bydd yng nghwmni ein brawd, Daniel.”
Bu farw Daniel yn 15 oed yn 1992 o gyflwr ar y galon wrth chwarae pêl-droed gartref gyda'i dad.
Yn ogystal â Gabby a Daniel, roedd ganddo ddau o blant eraill, Louise a Jordan.
Roedd Gabby Logan yn cyflwyno uchafbwyntiau Uwch Gynghrair Lloegr ar raglen Match of the Day nos Fercher, ond bu'n rhaid iddi adael wedi 20 munud o'r rhaglen, gyda Mark Chapman yn cymryd ei lle.
Yn ystod y darllediad, dywedodd Chapman: "Yn drist iawn, mae gan Gabby argyfwng teuluol ac felly mae hi wedi gorfod mynd ar frys i ddelio â hyn, felly mae hi wedi mynd i wneud hynny a dwi wedi dod o'r radio i orffen y rhaglen."
Mae'r rhaglen wedi rhoi teyrnged i Yorath gan ddweud fod y "BBC yn anfon ei gydymdeimlad at y teulu cyfan, gan gynnwys ei ferch Gabby Logan."
'Parch'
Dywedodd Malcolm Allen, oedd yn rhan o garfan Cymru pan oedd Terry Yorath yn reolwr, ei fod yn "bresenoldeb ac yn wahanol i unrhyw reolwr arall nes i gael".
"Roedd o'n berson pobol - doedd o'm yn dweud llawer, doedd o'm yn gweiddi. Roedd o reit lawr i beth oedden ni angen gwneud fel tîm," meddai wrth Radio Cymru.
"Roedd o'n arwain ni ac roedd yn gwybod sut i ddelio efo'r pobl 'ma. Roedd ganddo'r amseriad o ddweud y pethau cywir pan oedd angen ei ddweud o.
"Roedd y parch yna trwy'r amser gyda Terry Yorath.
"Ac roedden ni mor agos gyda'r gêm Rwmania 'na - cap dwytha' fi a gêm dwytha' fo.
"Mae gen i atgofion hapus, ond ar y funud dw i ychydig bach yn sore o'r newyddion trist 'ma bore 'ma."
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan: "Trist clywed am farwolaeth Terry Yorath.
"Ni fydd cefnogwyr pêl-droed Cymru yn anghofio ei orchestion fel chwaraewr ac fel hyfforddwr cenedlaethol.
"Mae fy meddyliau gyda'i ffrindiau a'i deulu."