Rhybudd am eira mawr wrth i Storm Goretti daro Cymru

Eira

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai hyd at 20cm-30cm o eira syrthio mewn rhai rhannau o Gymru wrth i Storm Goretti daro'r wlad ddydd Iau a ddydd Gwener.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi un rhybudd oren am eira a thri rhybudd melyn sy'n berthnasol i rannau o Gymru oherwydd y storm, dau ohonynt am eira, un am law, ac un am wynt.

Fe fydd y rhybudd oren am eira mewn grym o 20:00 nos Iau hyd at 09:00 ddydd Gwener. 

Mae rhai awdurdodau lleol eisoes wedi cyhoeddi y bydd yna ysgolion ar gau yn sgil y tywydd gaeafol ddydd Gwener.

Bydd 13 o ysgolion ar gau ym Mhowys ddydd Gwener o ganlyniad i ragolygon am dywydd garw. 

Fe fydd Ysgol Uwchradd Darland yn Wrecsam hefyd ar gau gan y bydd prinder staff yn sgil y tywydd. 

Mae Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru wedi dweud y bydd "newidiadau i'r gwasanaeth" a bydd rhannau o'r rhwydwaith rheilffyrdd yn cau o tua 15:00 ddydd Iau a bore Gwener er diogelwch teithwyr.

Mae cynghorau lleol hefyd wedi rhybuddio am effaith y storm gyda Ceredigion yn dweud y gallai arwain at "amodau teithio peryglus ac amhariadau i wasanaethau".

Dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin bod paratoadau ar gyfer tywydd garw ar waith: "Bydd criwiau cynnal a chadw'r gaeaf wrth gefn drwy gydol y digwyddiad i ymateb i amodau sy'n newid."

Mae'r storm wedi’i henwi'n Storm Goretti gan Meteo France. Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod rhwng 10cm a 15cm o eira yn debygol, a hynny yn weddol eang, gyda 20cm-30cm mewn rhai ardaloedd.

Mae disgwyl i'r eira droi yn law ac eirlaw fore Gwener ond mae trafferthion yn sgil yr eira yn debygol o barhau yn ystod dydd Gwener yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Gwynedd
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Wrecsam
  • Powys
  • Sir Gâr
  • Ceredigion
  • Merthyr Tudful
  • Torfaen
  • Blaenau Gwent
  • Sir Fynwy
  • Rhondda Cynon Taf
  • Caerffili

'Troi'n eira'

Mae rhybudd melyn am eira hefyd mewn grym o 17:00 nos Iau tan 12:00 fore Gwener. 

Bydd y rhybudd hwn yn berthnasol i dalp helaeth o Gymru heblaw am Ynys Môn ac ardaloedd arfordirol y gogledd.

“Mae'n debygol y bydd cyfnod o eira trwm yn datblygu dros dir uwch yn ne Cymru yn ddiweddarach ddydd Iau cyn i'r glaw droi'n eira dros rannau ehangach o Gymru a Lloegr yn ystod nos Iau,” meddai’r Swyddfa Dywydd.

“Mewn rhai ardaloedd, gall 5–10 cm o eira ddisgyn gyda'r potensial am hyd at 20 cm mewn rhai lleoliadau, yn enwedig dros dir uwch.

“Gall gwyntoedd cryfion arwain at rywfaint o eira'n symud. Yna bydd glaw ac eira'n clirio tua'r dwyrain yn ystod dydd Gwener.”

Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law rhwng 12:00 ddydd Iau a 10:00 fore Gwener. 

Fe fydd y rhybudd hwn yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Sir Gâr
  • Ceredigion
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Sir Benfro
  • Abertawe

Mae yna rybudd melyn am wynt hefyd yn berthnasol i Sir Benfro rhwng 15:00 brynhawn Iau a 06:00 fore Gwener. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.