Newyddion S4C

Etholiad ’24: Pedair sedd allweddol yng Nghymru i gadw golwg arnyn nhw

03/07/2024
Pedair sedd etholiad 2024

Fe fydd yna 32 etholaeth ar draws Cymru yn cyhoeddi eu canlyniadau nos Iau.

Gallai unrhyw beth ddigwydd wrth gwrs – mae’r arolygon barn yn gallu bod yn anghywir – ond nid pob un ohonyn nhw sydd ar yr olwg gyntaf yn ymddangos yn gystadleuol.

Ond mae yna rai etholaethau yng Nghymru lle mae’r canlyniad wir yn y fantol, gyda chryn ansicrwydd hyd yn oed ymysg arbenigwyr gwleidyddol ynglŷn â phwy fydd yn mynd â hi.

Ac fe fydd y canlyniadau yn yr etholaethau rhain hefyd yn dweud cryn dipyn i ni am lwyddiant neu beidio y pleidiau gwleidyddol ar y noson.

Dyma bedair etholaeth i gadw golwg arnyn nhw ar noson yr etholiad lle mae’r canlyniad yn ansicr dros ben...

 

Ynys Môn

Image
Ynys Môn

Pwy enillodd yn 2019?

Y Ceidwadwyr

Beth mae’r arolygon barn yn ei awgrymu?

Mae yna anghytuno ymysg yr arolygon barn yma. 

Mae arolygon barn Britain Predicts, yr Economist, Electoral Calculus, Focaldata, y Financial Times, More in Common, Survation a WeThink wedi awgrymu mai'r Blaid Lafur fydd yn mynd â hi.

Ond mae Electionmaps, Ipsos, Savanta a YouGov wedi awgrymu mai Plaid Cymru fydd yn fuddugol.

Mae'r arolygon barn yn cytuno ar un peth hefyd sef nad yw'r Ceidwadwyr ymhell ar ei hol hi.

Beth mae’r bwcis yn ei ddweud?

Y Blaid Lafur yw ffefryn y bwcis ar hyn o bryd, gyda Plaid Cymru yn ail agos a’r Ceidwadwyr yn drydydd.

Dadansoddiad

Fe fyddai yn cymryd dyn neu ddynes dewr i ddweud gydag unrhyw sicrwydd pwy fydd yn fuddugol yma.

Efallai mai Llafur yw’r ffefrynnau o drech blewyn ond mae'n brif sedd darged i Blaid Cymru ac mae arweinydd y blaid yn Aelod o Senedd Cymru dros y etholaeth a’r ymgeisydd yn arweinydd y cyngor.

Mae gan Ynys Môn hefyd dueddiad i gadw eu ASau nes eu bod yn ymddeol gyda’r ddau AS blaenorol, Ieuan Wyn Jones a Albert Owen, wedi cadw gafael ar y sedd am 32 o flynyddoedd rhyngddyn nhw.

Efallai y bydd hynny’n ffafrio'r AS Ceidwadol diweddaraf, Virginia Crosbie, sy'n sefyll eto y tro 'ma. 

Yr oblygiadau

Byddai ennill yma yn rhyddhad mawr i'r Ceidwadwyr a’n awgrymu eu bod nhw’n debygol o fod wedi gwneud yn well nag y mae’r arolygon barn yn eu hawgrymu.

Byddai ennill yma yn rhoi cyfle i Blaid Cymru ddweud eu bod nhw wedi cael noson dda hefyd - dydyn nhw heb ennill Ynys Môn ers dyddiau Ieuan Wyn Jones 1997.

I Lafur byddai Ynys Môn yn goron ar noson sydd yn debygol o fod yn un ysgubol yng Nghymru - os ydyn nhw’n ennill mwyafrif swmpus yn Senedd San Steffan.

 

Maldwyn a Glyndŵr

Image
Maldwyn a Glyndŵr

Pwy enillodd yn 2019?

Doedd y sedd ddim yn bodoli ar ei ffiniau presennol yn 2019 ond mae dadansoddiad ystadegol yn awgrymu mai'r Ceidwadwyr fyddai wedi ennill bryd hynny petai pawb yn pleidleisio yr un fath.

Beth mae’r arolygon barn yn ei ddweud?

Mae yna wahaniaeth barn yma eto gyda BritainPredicts, IPSOS, Survation a YouGov yn dweud y bydd y Ceidwadwyr yn dal gafael ar y sedd, ond arolygon barn eraill yn dweud mai Llafur eith a hi.

Maen nhw hefyd yn cytuno nad yw'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bell ar ei hol hi.

Beth mae’r bwcis yn ei ddweud?

Mae Llafur yn ffefrynnau yma ar hyn o bryd gydag ymgeisydd y Ceidwadwyr yn ail agos.

Dadansoddiad

Mae llygad nid yn unig Cymru ond y Deyrnas Unedig wedi bod ar y sedd yma yn sgil y sgandal betio.

Daw wedi i’r ymgeisydd Ceidwadol, Craig Williams gael ei gyhuddo o fetio ar ddyddiad yr Etholiad Cyffredinol.

Mae wedi ymddiheuro gan ddweud ei fod wedi "gwneud camgymeriad, nid cyflawni trosedd" a dweud ei fod yn "bwriadu clirio ei enw".

Ond mae’r blaid wedi ei atal am y tro a gallai hynny wneud sedd oedd eisoes yn y fantol yn fwy o dalcen caled i'w chadw.

Yr oblygiadau

Ar ôl y sgandal betio fe fyddai cadw'r sedd yma yn dipyn o gamp i'r Ceidwadwyr. Ond fe fyddai yn codi cwestiwn wedyn ynglŷn â beth i'w wneud gyda'r ymgeisydd llwyddiannus o ystyried ei fod wedi ei atal am y tro.

Maldwyn yw’r unig ran o Gymru nad yw Llafur erioed wedi ei hennill drwy gydol ei hanes. 

Byddai ennill yma yn gyfle iddyn nhw gael gwared â bob un aelod seneddol Ceidwadol yng Nghymru am y tro cyntaf ers 1997 a sicrhau bod modd cerdded o dde i ogledd y wlad heb adael etholaeth Lafur.

Yn y cyfamser byddai ennill yma yn gamp annisgwyl gan y Democratiaid Rhyddfrydol a'n cadarnhau eu bod nhw'n llwyddo i ad-ennill tir ers colli bob sedd yng Nghymru yn 2017.

 

Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe

Image
Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe

Pwy enillodd yn 2019?

Doedd y sedd ddim yn bodoli ar ei ffiniau presennol yn 2019 ond mae dadansoddiad ystadegol yn awgrymu mai'r Ceidwadwyr fyddai wedi ennill bryd hynny.

Beth mae’r arolygon barn yn ei ddweud?

Mae’r arolygon barn yn awgrymu y gallai tair plaid wahanol ennill y sedd, un o’r ychydig seddi ar draws y DU lle mae yna gymaint o wahaniaeth o ran yr arolygon.

Mae Britain Predicts, electionmaps, Electoral Calculus, FT, More in Common, Survation a YouGov yn awgrymu mai’r Democratiaid Rhyddfrydol aiff a hi.

Mae’r Economist, IPSPO a WeThink yn awgrymu y bydd y sedd yn aros yng nghorlan y Blaid Geidwadol.

Mae Focaldata a Savanta yn rhoi y sedd yng nghorlan Llafur.

Beth mae’r bwcis yn ei ddweud?

Dyw’r bwcis ddim yn cynnig ryw lawer o arweiniad chwaith gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr yr un mor debygol â’i gilydd o ennill y sedd, a Llafur yn drydydd agos ar hyn o bryd.

Dadansoddiad

Ychydig o drafod sydd wedi bod ar y sedd newydd yma gyda gogledd Powys yn hawlio’r penawdau.

Ond ar bapur dyma un o seddi mwyaf cystadleuol y Deyrnas Unedig gyda’r bleidlais yma’n debygol o fod yn hynod o agos.

Fe fyddai colli yma yn cadarnhau noson wael i’r Ceidwadwyr, tra y byddai ennill yn rhoi troedle i’r Democratiaid Rhyddfrydol ar fap etholiadol Cymru unwaith eto.

Os yw Llafur yn ennill yma maen nhw’n debygol o gael noson dda iawn gan ennill bron i bob sedd yng Nghymru.

Yr oblygiadau

Mae’r Ceidwadwyr mewn peryg o golli pob sedd yng Nghymru a byddai ennill yr etholaeth yma’n fodd iddyn nhw osgoi’r ffawd honno. Fel Sir Drefaldwyn a Glyndŵr mae’r sedd yma’n cynrychioli cyfle i oroesi.

Os yw Llafur yn ennill yma mae eu buddugoliaeth ar draws Cymru yn debygol o fod yn un ysgubol - hyd yn oed yn fwy felly na 1997.

Gallai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru o ennill y sedd hefyd hawlio eu bod nhw ar eu ffordd yn ôl ar ôl cyfnod yn yr anialwch.

 

Caerfyrddin

Image
Caerfyrddin

Pwy enillodd yn 2019?

Doedd y sedd ddim yn bodoli ar ei ffiniau presennol yn 2019 ond mae dadansoddiad ystadegol yn awgrymu mai'r Ceidwadwyr fyddai wedi ennill bryd hynny. 

Mae hynny er mai Plaid Cymru oedd yn fuddugol yn 2019 yn y sedd sydd fwyaf tebyg i’r etholaeth yma o ran ei thiriogaeth, sef Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Beth mae’r arolygon barn yn ei awgrymu?

Mae’r arolygon barn yn awgrymu mai brwydr rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur fydd hon.

Mae pedwar o’r arolygon barn yn awgrymu mai Llafur aiff a hi ac wyth ohonyn nhw yn ei gweld Caerfyrddin yn mynd i gorlan Plaid Cymru.

Maen nhw'n cytuno hefyd nad yw'r Ceidwadwyr chwaith yn bell i ffwrdd o gwbwl.

Beth mae’r bwcis yn ei ddweud?

Plaid Cymru yw’r ffefrynnau ar hyn o bryd, gyda Llafur yn ail agos a’r Ceidwadwyr yn drydydd.

Dadansoddiad

Fel Ynys Môn mae'n heriol iawn dyfalu pwy fydd yn fuddugol yma. Mae ymgeiswyr Plaid Cymru a Llafur yn wynebau newydd gyda’r naill a’r llall yn sefyll am y tro cyntaf.

Bu’r ymgeisydd Ceidwadol, Simon Hart, yn Aelod Seneddol ar Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn 2010 ac yn aelod o’r cabinet fel Prif Chwip Llywodraeth y DU.

Efallai y bydd profiad ymgyrchu o gymorth iddo yn y sedd ond mae’n amlwg fod ganddo fynydd i’w ddringo yma.

Yr oblygiadau

Fel Ynys Môn, byddai buddugoliaeth yma’n rhoi cyfle i Blaid Cymru ddweud eu bod nhw wedi cael noson dda ac yn garreg sarn tuag at etholiad Senedd 2026.

Mae Caerfyrddin hefyd yn sedd bwysig yn seicolegol i'r blaid gan mai yma yr ennillodd Gwynfor Evans etholaeth gyntaf y blaid yn 1966.

Os nad ydyn nhw’n llwyddo i gipio’r sedd mae perygl iddo gael ei weld fel cam yn ôl gan eu bod nhw wedi ennill Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ymhob etholiad ers 2001, er bod ffiniau'r sedd hon yn wahanol.

Nid yw Caerfyrddin yn dir estron i'r Blaid Lafur chwaith wedyn iddyn nhw gadw'r sedd rhwng 1974 ac 2001. Os ydyn nhw'n ennill yma fe fydd yn gadarnhad unwaith eto bod y don goch wedi ymestyn i bob rhan o Gymru.

Byddai buddugoliaeth i'r Ceidwadwyr yn fwy o syndod ac yn awgrymu bod yr arolygon barn a sylwebwyr gwleidyddol wedi gwneud camgymeriad wrth ragweld crasfa hanesyddol iddyn nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.