Newyddion S4C

Etholiad ’24: Beth fyddai'n noson lwyddiannus a siomedig i’r pleidiau?

Keir Starmer yng Nghaerfyrddin

Bydd unrhyw un sydd wedi talu unrhyw sylw i'r Etholiad Cyffredinol yn gwybod bod disgwyl buddugoliaeth i'r Blaid Lafur.

Ond er bod yr arolygon barn i gyd yn pwyntio i'r un cyfeiriad, mae 'na lot o wahaniaeth barn o hyd ynglŷn â faint o fuddugoliaeth fydd hi.

Does neb yn gwybod i sicrwydd pwy fydd yn dewis pleidleiso ar y diwrnod a pwy fydd yn aros adref. 

Ac mae yna sawl ffactor - fel yr angen i fynd ag ID i bleidleisio, ffiniau newydd, ac ansicrwydd ynglŷn â maint pleidlais Reform, a hyd yn oed y tywydd - a all newid union nifer yr etholaethau sy'n cael eu hennill gan bob plaid.

Felly beth fyddai yn cynrychioli canlyniad da a chanlyniad siomedig i bob plaid ar y noson?

Image
Rishi Sunak
Rishi Sunak

Y Ceidwadwyr

Mae’r arolygon barn bellach mor negyddol i’r Ceidwadwyr fel y byddai angen gwyrth fechan arnyn nhw i aros mewn llywodraeth.

I roi’r her sy’n eu hwynebu yn ei gyd-destun: Yn etholiad 1992 roedd yr arolygon barn yn anghywir o 4.82% ar gyfartaledd gan roi buddugoliaeth annisgwyl i Geidwadwyr John Major dros blaid Lafur Neil Kinnock.

Ond hyd yn oed pe bai’r arolygon barn yn anghywir o blaid y Ceidwadwyr i’r un graddau ddydd Iau, dim ond tua 170 sedd fyddai'r Ceidwadwyr yn eu hennill.

Y cyfartaledd ar draws yr arolygon barn yw bod y Ceidwadwyr yn ennill tua 100 o seddi.

Fe allen nhw fod yn anghywir yn y cyfeiriad arall, wrth gwrs. 

Ar noson wirioneddol drychinebus i’r blaid mae'n bosib y byddwn nhw'n syrthio dan 60 o seddi a dod yn drydydd y tu ôl i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yng Nghymru, byddai llwyddiant i’r Ceidwadwyr yn golygu cadw ryw fath o droedle etholaethol.

Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe yw eu gobaith pennaf o gadw sedd. Mae Sir Drefaldwyn a Glyndŵr ac, efallai, Sir Fynwy hefyd yn bosibiliadau eraill.

Image
Keir Starmer
Keir Starmer

Llafur

Os yw’r arolygon barn yn gywir, y cwestiwn mawr bellach yw pa mor anferth fydd mwyafrif y Blaid Lafur.

Yn 1997, buddugoliaeth fwyaf y Blaid Lafur hyd yma, fe enillodd y blaid 418 o seddi. Mae rhai arolygon barn, fel YouGov, yn awgrymu y gallai Llafur ennill mwy fyth tro ‘ma.

Mae rhai o’r arolygon barn fel Survation yn eu rhoi nhw ar bron i 500 o etholaethau, a fyddai'n ganlyniad anhygoel iddyn nhw.

Byddai angen i’r arolygon barn fod yn anghywir mewn ffordd lled drychinebus i Lafur beidio â chael mwyafrif o gwbl.

Ond yn y cyd-destun presennol byddai unrhyw beth dan ryw 350 o seddau ychydig yn siomedig.

Yng Nghymru, byddai ennill etholaethau lle mae’r canlyniadau yn parhau yn ansicr gan gynnwys Ynys Môn a Chaerfyrddin yn cynrychioli buddugoliaeth ysgubol i’r blaid.

Nid yw’r Blaid Lafur erioed wedi enill Sir Drefaldwyn felly byddai ennill yno yn un o seddi mwyaf diogel y Blaid Geidwadol hefyd yn adlewyrchu'r ffaith ei fod yn fuddugoliaeth hanesyddol.

Image
Ed Davey
Ed Davey

Y Democratiaid Rhyddfrydol

Wrth i bleidlais y Ceidwadwyr chwalu, bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio ennill cyfres o etholaethau, yn bennaf yn ne a de-orllewin Lloegr, lle maen nhw’n brif wrthblaid.

Maen nhw’n gobeithio ennill y nifer fwyaf o etholaethau erioed, gan guro eu record  - sef 62 yn etholiad 2005.

Byddai unrhyw beth dros y ffigwr hwnnw yn cyfri fel noson foddhaol iawn iddyn nhw.

Mae lot fawr yn dibynnu ar bleidlais y Ceidwadwyr wrth gwrs, ond os yw hwnnw yn chwalu yn llwyr fe allai'r Democratiaid Rhyddfrydol ennill dros 80 o seddi a chymryd lle'r Ceidwadwyr fel prif wrthblaid.

Ar y llaw arall, os yw canlyniadau’r Ceidwadwyr yn well na’r disgwyl byddai tua 50 o etholaethau yn ffigwr siomedig.

Yng Nghymru, mae’r blaid yn targedu etholaeth Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gyda’u holl nerth. 

Does ganddyn nhw'r un etholaeth yng Nghymru ar hyn o bryd a byddai ennill hyd yn oed un yn fuddugoliaeth iddyn nhw.

Image
Rhun ap Iorwerth
Rhun ap Iorwerth

Plaid Cymru

Pedair etholaeth mae Plaid Cymru wir yn gystadleuol ynddyn nhw yn San Steffan sef Ynys Môn, Dwyfor Meirionnydd, Ceredigion Preseli a Chaerfyrddin.

Mae rywfaint o ansicrwydd oherwydd y newid ffiniau ond mae disgwyl i Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli fod yn weddol saff.

Mae noson ychydig yn siomedig neu lwyddiant felly yn dibynnu ar lwyddo i gipio Ynys Môn a Chaerfyrddin.

Bydd y blaid hefyd yn gobeithio am ganlyniadau cadarnhaol mewn etholaethau gan gynnwys Bangor Aberconwy, Llanelli, Rhondda ac Ogwr, Caerffili a Phontypridd.

Image
Nigel Farage
Nigel Farage

Reform

Fel plaid gweddol newydd a enillodd 2.1% o’r bleidlais yn unig yn etholiad 2019 mae yna ansicrwydd mawr ynglŷn â faint o bleidlais fydd Reform yn gael, a pa effaith fydd yn ei gael ar y map etholiadol.

Mae’r blaid yn obeithiol mewn llond dwrn o seddi gan gynnwys Clacton, Basildon and Billericay, a Great Yarmouth yn nwyrain Lloegr.

Byddai llwyddiant i’r blaid yn golygu codi llond dwrn o etholaethau o’r fath, gydag unrhyw beth y tu hwnt i hynny yn cynrychioli daeargryn wleidyddol.

Noson siomedig i’r blaid fyddai methu ag ennill unrhyw etholaethau o gwbwl. Mae Nigel Farage, arweinydd y blaid, eisoes wedi sefyll saith gwaith heb unrhyw lwyddiant.

Yng Nghymru does dim disgwyl i’r blaid ennill yr un sedd ond gallai ddod yn ail i’r Blaid Lafur yn nifer ohonyn nhw yn y cymoedd gan gynnwys Gorllewin Casnewydd ac Islwyn ac Aberafan Maesteg.

Image
Carla Denyer
Carla Denyer

Y Blaid Werdd

Fel Reform codi llond dwrn o etholaethau targed fydd y nod i’r Blaid Werdd gyda Bristol Central wedi bod yn darged amlwg drwy gydol yr ymgyrch i’w ychwanegu at Brighton Pavilion.

Siomedig iddyn nhw fyddai aros yn yr unfan tra y byddai ennill 2-3 o seddi targed ychwanegol yn noson dda iddyn nhw.

Yng Nghymru does dim disgwyl iddyn nhw ennill yr un sedd ond maen nhw ar eu mwyaf cystadleuol yng Ngorllewin Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth a Bro Morgannwg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.