
Cymru yn colli ond yn creu hanes yn eu gêm gyntaf yn Euro 2025
Fe wnaeth Cymru golli o dair gôl i ddim yn erbyn yr Iseldiroedd yn eu gêm gyntaf yn Euro 2025 yn y Swistir.
Wrth i'r Ddraig Goch ymddangos mewn rowndiau terfynol prif gystadleuaeth pêl-droed menywod am y tro cyntaf erioed, roedd hi'n achlysur hanesyddol i dîm Cymru yn y Stadiwm Allmend yn Lucerne ddydd Sadwrn.
Dan haul crasboeth, roedd Lucerne yn berwi gyda chefnogwyr Iseldiroedd a Chymru bnawn y gêm, gyda thorf o 14,000 yn gwylio'r cyfan.
Fe benderfynodd Rhian Wilkinson wneud tri newid i dîm Cymru ers colli yn erbyn Yr Eidal fis diwethaf, gyda Jess Fishlock, Rhiannon Morgan ac Esther Morgan yn cael eu cynnwys mewn tîm profiadol.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1941539290732953643
Roedd yr emosiwn ymysg y Wal Goch yn amlwg cyn y gêm, wrth i chwaraewyr a chefnogwyr Cymru ganu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ gydag angerdd.
Cafodd funud o dawelwch hefyd ei gynnal er cof am y pêl-droedwyr, Diogo Jota ac Andre Silva.
Yng ngwres Lucerne, fe ddechreuodd Yr Iseldiroedd gyda phwrpas, gan orfodi golwr Cymru Olivia Clarke i arbed ergyd bwerus gan Jill Roord yn y munudau agoriadol.
Ond fe ddechreuodd y Cymry ganfod rhywfaint o hyder eu hunain, gyda Lily Woodham a Ceri Holland yn rhoi croesiadau bygythiol yng nghwrt y gwrthwynebwyr.
Wedi 24 munud, cafodd y cefnwr chwith Lily Woodham ei chosbi am wastraffu amser gyda cherdyn melyn.

Fe wnaeth y tîm mewn cit glas barhau i hawlio’r rhan fwyaf o’r meddiant, ond fe arhosodd amddiffyn Cymru yn gadarn am yr hanner awr cyntaf, gyda Esther Morgan, Hayley Ladd a Rhiannon Roberts yn arwain yr ymdrechion.
Wedi 35 munud daeth Yr Iseldiroedd yn agos iawn i’r gôl agoriadol, wrth i Roord daranu ergyd yn erbyn y postyn o 25 o lathenni.
Fe wnaeth y cochion fwynhau cyfnod addawol ar ddiwedd yr hanner, gan orfodi sawl cic gornel. Cafodd Lily Woodham ergyd ar gôl ar ddiwedd un symudiad celfydd, ond fe wnaeth y bêl hedfan dros y trawst.
A gyda munud yn weddill ar ddiwedd yr hanner, fe wnaeth yr Iseldiroedd daro ergyd sylweddol wrth i'r athrylithgar Vivianne Miedema ganfod gwagle a chrymanu'r bêl heibio Clarke i gongl uchaf y gôl – ei chanfed gôl ryngwladol dros ei gwlad.
Ail hanner
Llai na thri munud wedi’r ail hanner gychwyn ac roedd yr Iseldiroedd wedi llwyddo i ddyblu eu mantais.
Yn dilyn croesiad gan Daniëlle van de Donk fe wnaeth Victoria Pelova rwydo’r bêl yn isel heibio Clarke.
Roedd y gwrthwynebwyr yn edrych yn hynod fygythiol wedi’r ail gôl, gyda Roord yn taro’r trawst ar ôl un o sawl symudiad addawol.

Roedd hi’n dair i ddim wedi 57 munud, gydag Esmee Brugts yn cyfeirio foli isel heibio Clarke ar y postyn pellaf, ar ôl i Veerle Buurman daro’r trawst yn gynharach yn y symudiad.
Mewn cyfle prin i Gymru ar ddechrau'r ail hanner, fe wnaeth Gemma Evans benio heibio’r postyn wedi cic gornel ar 62 munud.
Fe wnaeth Wilkinson wneud tri o eilyddion ar gyfer chwarter ola’r gêm, gyda Kayleigh Barton, Rachel Rowe a Ffion Morgan yn cymryd lle Josie Green, Jess Fishlock a Hannah Cain.
Roedd yr Iseldiroedd yn gyff0rddus yn niweddglo'r gêm ac yn bygwth gyda phob ymosodiad.
Ac er i ymdrechion Cymru i sgorio gôl gysur barhau tan y chwiban olaf, fe lwyddodd y gleision i gadw'r llechen lân yn ogystal, wrth ddal ymlaen i fuddugoliaeth haeddianol.

Er gwaetha'r golled, roedd lot fawr i'w ddathlu o safbwynt Cymreig ddydd Sadwrn, wrth i Hen Wlad Fy Nhadau atseinio o amgylch y stadiwm yn eiliadau ola'r gêm.
Roedd nifer fawr o deuluoedd a phlant ifanc yn y coch a hetiau bwced yn canu yn ddi-ddiwedd, gan gyfrannu at achlysur unigryw. Megis dechrau ydi hyn i Gymru.
Bydd y Cymry yn dychwelyd i’r maes nos Fercher i herio Ffrainc yn St Gallen, yn eu hail gêm yng Ngrŵp D, tra bod yr Iseldiroedd yn wynebu Lloegr.
Lluniau: Cymdeithas Bêl-droed Cymru