Chwe Gwlad: Dan Edwards wedi'i ddewis fel maswr yn erbyn Iwerddon

Dan Edwards (Huw Evans)

Fe fydd Dan Edwards yn cychwyn fel maswr wrth i Steve Tandy enwi tîm Cymru i wynebu Iwerddon yn y Chwe Gwlad nos Wener.

Yn dilyn y golled 25-28 yn erbyn yr Alban, mae Tandy wedi ei orfodi i wneud dau newid oherwydd anafiadau.

Mae Edwards yn cymryd lle Sam Costelow yn y crys rhif 10, tra bod James Botham yn cychwyn fel blaenasgellwr agored, gan gymryd lle Taine Plumtree.

Mae asgellwr y Scarlets, Ellis Mee, hefyd yn dychwelyd i’r asgell, gan gymryd lle Gabriel Hamer-Webb.

Ar y fainc, mae Adam Beard, Olly Cracknell a chanolwr Caerfaddon, Louie Hennessey, wedi’u henwi.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru Steve Tandy: "Ry’n ni wedi gorfod gwneud ambell newid ar gyfer y gêm hon o achos anafiadau – ac mae Ellis wedi chwarae’n dda pan mae wedi cael y cyfle i wneud hynny. Mae’n haeddu cyfle arall oherwydd hynny.

"Yr wythnos yma mae’n rhaid i ni berfformio’n dda fel y gwnaethon ni’n erbyn Yr Alban ond mae teithio oddi cartref yn cynnig her ac awyrgylch wahanol. Mae’r garfan gyfan yn canolbwyntio ar wella’n perfformiad ni ein hunain.

"Roedd ein hamddiffyn yn erbyn Yr Alban yn llawer gwell ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod hynny’n gwella ymhellach y penwythnos yma. 

"Mae’r Gwyddelod yn arbennig am gadw’r meddiant a rhyddhau’r bêl ar yr adegau cywir ac felly ry’n ni’n gwybod bod yn rhaid i ni godi safon ein perfformiad i’r lefel nesaf."

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.