Awyren gyntaf yn cludo dinasyddion Prydeinig o'r Dwyrain Canol

Awyren gan Qatar mewn maes awyr yn America

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd awyren yn gadael Oman nos Fercher ar gyfer dinasyddion Prydeinig sydd yn awyddus i adael y Dwyrain Canol.

Y bobol fwyaf bregus fydd yn cael blaenoriaeth.

Dyma'r awyren gyntaf i Lywodraeth y DU drefnu ac mae disgwyl iddi adael am 23:00 amser lleol.

Daw hyn wrth i'r ymgyrch fomio ar y cyd rhwng America ac Israel barhau yn Iran a Libanus.

Mae'r UDA yn dweud eu bod wedi taro bron i 2,000  o safleoedd yn Iran erbyn hyn a bod system amddiffyn awyr y wlad wedi ei difrodi yn sylweddol.

Yn ôl Gwasanaeth Newyddion Hawliau Dynol HRANA sydd wedi ei leoli yn America mae 1,097 o bobl wedi eu lladd yn Iran ers Chwefror 28. 

Mae adroddiadau hefyd bod nifer wedi eu lladd yn Libanus. Dweud eu bod yn targedu adnoddau a gweithredoedd Hezbollah mae Israel.

Mae pris olew wedi codi wrth i lif llongau rhyngwladol gael eu rhwystro ar ôl i Iran gau culfor Hormuz.

Nos Fawrth fe wnaeth Arlywydd yr UDA, Donald Trump fychanu Prif Weinidog Prydain, Keir Starmer a'i wawdio gan ddweud nad "Winston Churchill ydyn ni yn delio ag o".

Fe wnaeth ei sylwadau wedi ffrae ynglŷn â phenderfyniad Llywodraeth y DU i beidio gadael America i ddefnyddio safleoedd milwrol Prydain yn Diego Garcia ac Ynys Chagos. 

Mae rhai aelodau Llafur wedi cefnogi safbwynt Starmer ar y mater. 

Llun: Reuters 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.