Prifysgol yn cyhoeddi bwriad i dorri 200 o swyddi
Mae un o sefydliadau addysg uwch De Cymru wedi cadarnhau eu bwriad i dorri 200 o swyddi.
Mewn datganiad ddydd Mercher, fe ddywedodd llefarydd ar ran Prifysgol De Cymru: "Fel nifer o brifysgolion, rydym yn ymateb i anawsterau ledled y sector" gan gynnwys "costau gweithredu cynyddol a newidiadau yn y polisi sy'n ymwneud â myfyrwyr rhyngwladol.
"Yn dilyn ystyriaeth ofalus, rydym ni bellach wedi agor rhaglen o golli gwaith gwirfoddol ar gyfer ein cydweithwyr gwasanaethau proffesiynol a chydweithwyr.
"Rydym ni wedi bod yn agored â chydweithwyr o ran graddfa'r newid - rydym yn bwriadu lleihau ein gweithlu o tua 200 o rolau. "
Ychwanegodd y brifysgol fod y cynllun yn un gwirfoddol a'u bod wedi "cytuno ar gynnig diswyddo gwell" ar gyfer y cynllun diswyddo gwirfoddol sydd yn "adlewyrchu ein hymrwymiad gwirioneddol i leihau'r mesurau gorfodol lle bynnag y bo modd."
Fe ddywedodd y brifysgol eu bod bellach mewn cyfnod o ymgynghori â chydweithwyr ac undebau llafur.
Yn gynnar yn 2025, fe gyhoeddodd y brifysgol gynlluniau i gael gwared ar 90 o swyddi ac i leihau cyrsiau ac ymchwil.
Mewn datganiad ar y pryd dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol De Cymru y bydd "angen llai nag 20 [diswyddiad gorfodol ymhlith staff academaidd] yn y rhan hwn o'r adolygiad" a'u bod wedi "gweithio'n galed i leihau diswyddiadau gorfodol".
Wedi i Newyddion S4C holi am staff gwasanaethau proffesiynol, cadarnhawyd bod 14 o staff wedi eu diswyddo drwy broses ddiswyddo gorfodol yn gynharach y llynedd.
Mae hynny yn ychwanegol i'r staff academaidd.
Mae Prifysgol De Cymru ymhlith nifer o sefydliadau o fewn y sector addysg uwch yng Nghymru a thrwy'r Deyrnas Unedig sydd wedi cydnabod eu bod yn wynebu caledi ariannol ar hyn o bryd.
