Newyddion S4C

Tân mewn gwesty ym Mlaenau Ffestiniog

Tân Blaenau Ffestiniog

Mae criwiau tân yn brwydro i ddiffodd tân mewn gwesty ym Mlaenau Ffestiniog.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r Stryd Fawr am 11.09 ddydd Sadwrn yn dilyn tân yn y Queen's Hotel.

Mae rhan fawr o do'r adeilad wedi disgyn, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Mae chwe chriw tân yn gweithio i geisio dod â'r tân dan reolaeth, o Blaenau Ffestiniog, Corwen, Y Bala, Cerrigydrudion, Caernarfon a Betws y Coed.

Mae uned rheoli digwyddiad o Rhyl a phlatfform ysgol o Fangor hefyd yn y lleoliad.

Mae ffordd yr A470 ar Stryd yr Eglwys wedi cau i'r ddau gyfeiriad o ganlyniad, tra bod cwmni bysiau Llew Jones wedi cyhoeddi y byddai gwasanaethau yn terfynu yn Llan Ffestiniog.

Image
Tan Blaenau

Mae'r Ganolfan Gymdeithasol wedi agor ystafell Gofal Dydd i unrhyw drigolion sydd yn dymuno lloches tra bod y tân yn parhau i losgi, tra bod neuadd yr eglwys hefyd ar agor i unrhyw un.

Mae'r gwasanaethau brys wedi gofyn i bobl gadw draw o'r ardal wrth i griwiau tân barhau i geisio dod â'r tan dan reolaeth. Maent yn cynghori trigolion lleol i gadw drysau a ffenestri ar gau yn ogystal.
 
Mae'r siop Co-Op yn y dref hefyd ar gau tra bod ymdrechion i fynd i afael â'r tan yn parhau.

'Trychinebus'


Dywedodd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn bod yr olygfa yn un "drychinebus".

"Mae'r fflamau wedi dechrau diffodd a mae na craen efo dynion tân uwchben yr adeilad. Mae'r mwg yn eitha trwchus, mwg gwyn, ond mae'n ddiwrnod niwlog ac mae'r mwg yn plethu efo'r niwl.

"Mae trawstiau'r adeilad wedi llosgi neu disgyn i ffwrdd. 

"O'n i'm yn disgwyl gweld hyn heddiw. Dwi'n gobeithio fod pawb yn saff tu mewn.

"Mae hon yn un o brif wythiennau'r dref ac mae 'na ffordd i fynd o gwmpas ond mae'n hirach, a does dim deud eto pa bryd fydd y ffordd yn ail agor a pryd fydd yr adeilad yn saff i allu pasio efo car.

Fe ychwanegodd: "Mae'r gwasanaeth tân wedi gwneud gwaith gwych, chwarae teg, i 'neud y lle'n saff a hel pobol yn ôl i bellter digon pell.

"Mae eisiau canmol nhw am ymateb mor gyflym."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.