Holl ganlyniadau Cymru: Y darlun ar ddiwedd y cyfri
Holl ganlyniadau Cymru: Y darlun ar ddiwedd y cyfri
Dyma ddarlun o'r canlyniadau yng Nghymru ar ddiwedd y cyfri yn yr Etholiad Cyffredinol.
Mae'r Ysgrifennydd Cymru presennol, David TC Davies, a thri o gyn-ysgrifenyddion Cymru, Alun Cairns, Simon Hart a Stephen Crabb, i gyd wedi colli eu seddi.
Mae Llafur wedi cipio saith sedd gan y Ceidwadwyr.
Mae Plaid Cymru wedi ennill pedair sedd, gan gipio'r seddi ar Ynys Môn ac yng Nghaerfyrddin.
Mae pob ffin etholaethol heblaw am un yng Nghymru wedi newid a rhai ohonynt yn cael enwau newydd.
Mae nifer yr ASau Cymreig yn cael eu cwtogi o 40 i 32 yn dilyn adolygiad o’r ffiniau dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r cyfan yn dilyn penderfyniad gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod gan bob etholaeth nifer tebyg o bleidleiswyr ynddynt – rhwng 69,724 a 77,062.
Y canlyniadau hyd yma: