Cymru yn ennill eu gêm rygbi gyntaf ers mis Hydref 2023

Cymru v Japan

Mae Cymru wedi ennill eu gêm rygbi gyntaf ers mis Hydref 2023, ar ôl curo Japan o 31-22 fore Sadwrn.

Cymru ddechreuodd y cryfaf ac wedi wyth munud fe wnaeth Kieran Hardy ryngipio’r bêl a lledaenu’r chwarae i’r asgell chwith.

Ben Thomas dorrodd drwy’r amddiffyn cyn pasio i Blair Murray a redodd 20 llath cyn trosglwyddo’r bêl i Josh Adams ar yr asgell, gyda’r dasg hawdd o sgorio cais cyntaf y gêm. 

Fe wnaeth Dan Edwards sicrhau’r ddau bwynt ychwanegol.

Ychydig wedi 20 munud fe dorrodd Ichigo Nakakusu drwy amddiffyn Cymru cyn dadlwytho’r bêl allan i’r blaenasgellwr Michael Leitch.

Ond roedd gwaith amddiffyn gwych gan Josh Macleod wedi ei rwystro rhag carlamu tua’r llinell gais.

O hynny fe aeth Cymru i ochr arall y cae ac Aaron Wainwright yn cicio’r bêl i fewn i hanner Japan wedi pasio llac gan y tîm cartref.

Sgoriodd Japan eu pwyntiau cyntaf o’r gêm wedi 23 munud wrth i Seungsin Lee gicio’i gic gosb dros y pyst.

Fe wnaeth Cymru ymateb yn sydyn i hynny gan chwarae’n ddwfn yn hanner Japan am gyfnod, ac ennill sawl cig gosb.

Roedd y pwysau yno yn dwyn ffrwyth wrth i Dewi Lake dorri’n rhydd o sgarmes symudol a chael ei atal fodfeddi o’r llinell gais.

Ond fe gymerodd Kieran Hardy y bêl a sgorio ail gais Cymru, cyn i Dan Edwards sicrhau’r trosiad.

Yng nghanol hynny i gyd rhoddodd y dyfarnwr Luke Pearce gerdyn melyn i Faukua Makisi o Japan, wedi iddyn nhw ildio sawl cig gosb yn olynol.

Gyda 36 munud ar y cloc sgoriodd Kieran Hardy unwaith eto. Roedd gwaith gwych gan Josh Adams ar yr asgell wedi ei alluogi i dorri drwy’r amddiffyn cyn symud i fewn o’r asgell a phasio i Kieran Hardy i sgorio.

Dan Edwards yn sicrhau'r trosiad unwaith eto a Chymru 21-3 ar y blaen.

Ond nid dyna’r sgor ar yr egwyl - wedi i Japan sgorio ar ddiwedd yr hanner trwy Shūhei Takeuchi. 

21-10 i Gymru ar yr egwyl.

Ail Hanner

Fe wnaeth y gêm barhau yn 21-10 tan 48 munud, pan y gwnaeth Josh Macleod sicrhau cic gosb i Gymru. 

Llwyddodd Dan Edwards i sgorio, gan ei gwneud hi'n 24-10 i'r ymwelwyr.

Ond roedd Japan yn benderfynol o frwydro yn ôl, ac wedi 59 munud o chwarae, fe sicrhaodd Warner Deans y cais wedi i'r TMO gadarnhau.

Er nad oedd trosiad, dim ond naw pwynt oedd bellach rhwng Japan a Chymru.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru ychydig funudau wedyn, gyda chanolwr Japan Dylan Riley yn hawlio'r bêl i sicrhau trosgais, gan ei gwneud hi'n 22-24. 

Ond roedd Cymru bellach yn brwydro am eu bywydau er mwyn sicrhau'r fuddugoliaeth.

Roedd gan Gymru ychydig yn llai na 10 munud i reoli'r gêm, a dyna'n union ddigwyddodd. 

Llwyddodd Dan Edwards i sicrhau'r trosgais i Gymru wedi 75 munud o chwarae, gan ei gwneud hi 'n 22-31 i Gymru. 

Roedd gan Gymru fantais o naw pwynt gyda phum munud o chwarae i fynd.

Ac fe lwyddodd y tîm i wneud hynny, gan olygu mai dyma eu buddugoliaeth gyntaf ers mis Hydref 2023.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.