Elfyn Evans yn y trydydd safle ar Rali Paraguay
Mae’r Cymro Elfyn Evans yn y trydydd safle ar Rali Paraguay.
Roedd Evans yn y pumed safle yn dilyn wyth o gymalau agoriadol y rali ddydd Gwener.
Fe frwydrodd yn ôl i’r pedwerydd safle ar ôl yr ail o saith cymal ddydd Sadwrn cyn codi i’r trydydd safle pan gwympodd arweinydd y rali Kalle Rovanperä i’r chweched safle pan gafodd twll yn ei deiar ar chweched cymal y dydd.
Fe fydd y rali’n dod i ben ar ôl pedwar cymal ddydd Sul.
Mae Evans ar frig Pencampwriaeth y Byd ar hyn o bryd yn dilyn naw rali gyda phedair i fynd ar ôl Paraguay.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1961902997610414209