Cymry Cymraeg yn fuddugol ym Mhencampwriaeth Dartiau Cymru
Mae Richard Eirig Rowlands o Bwllheli a Rhian O'Sullivan o Lanelli wedi ennill y prif deitlau ym Mhencampwriaeth Dartiau Cymru nos Sadwrn.
Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yn Weston-super-Mare ddydd Sadwrn, gyda'r rownd gynderfynol a therfynol yn cael eu darlledu ar S4C.
Y Cymro o Bwllheli oedd yr enillydd yng nghystadleuaeth y dynion, gan guro ei gyd-Gymro Stephen Cake yn y rownd derfynol o 6-4.
Yn y gorffennol mae rhai o fawrion y gamp wedi ennill y gystadleuaeth hon, gan gynnwys Luke Littler, Stephen Bunting a Michael van Gerwen.
Disgrifiodd Littler, a enillodd hi yn 2022, ei fod yn "gam pwysig" yn ei yrfa.
Roedd Richard Eirig Rowlands yn emosiynol wrth dderbyn y tlws.
“Mae'n meddwl y byd, o’n i bron a crio fana," meddai.
“Mae’r gefnogaeth wedi bod yn amazing, diolch i bawb am droi fyny.”
Rowlands yw'r Cymro cyntaf i ennill y gystadleuaeth hon ers 2018.
'Werth y byd'
Yn y ddwy flynedd ddiwethaf mae Rhian O'Sullivan o Lanelli wedi cyrraedd y rownd derfynol, ond wedi cael ei threchu gan Beau Greaves.
Ond eleni O'Sullivan ac Aileen de Graaf o'r Iseldiroedd oedd yn y rownd derfynol.
Fe drechodd y Gymraes de Graaf o 5-1, gan ennill y tlws am y tro cyntaf yn ei gyrfa.
“Ma' hwn yn werth y byd i mi, diolch yn fawr i chi gyd am y gefnogaeth," meddai Rhian.
“O’n i lot mwy comfortable yn chwarae yn y ffeinal nag o’n i gynne.
“Felly hapus iawn iawn i ennill.
“Fel wedes i ma' hwn werth y byd achos sa i ‘di ennill e o’r blaen.
“Fi ‘di bod mor agos yn y gorffennol ond y tro ‘ma fi mor falch bod fi wedi ennill e."
Dyma'r tro cyntaf i Gymro a Chymraes ennill y gystadleuaeth yn yr un flwyddyn ers 30 mlynedd.
Richie Burnett a Sandra Greatbatch oedd yn fuddugol yn 1995.