Môn: Gemau'r Ynysoedd yn gyfle 'i brofi diwylliant a chreu cysylltiadau'

Gemau'r Ynysoedd

Mae cystadlu yng Ngemau'r Ynysoedd yn rhoi cyfle i athletwyr Ynys Môn "brofi diwylliant a chreu cysylltiadau" ledled y byd.

Dros yr wythnos nesaf fe fydd 107 o athletwyr o'r ynys yn teithio i Ynys Orkney oddi ar ogledd yr Alban i gystadlu yn y gemau.

Bydd 24 0 wledydd yn cystadlu o bedwar ban byd mewn 12 camp wahanol, gan gynnwys athletau, gymnasteg a hwylio.

O'r Ynysoedd Cayman yn y Caribî i Menorca ac Åland ger y Ffindir, mae'r gystadleuaeth wedi bod yn gyfle i athletwyr Môn rannu eu diwylliant a dysgu am ddiwylliant gwledydd eraill.

Dywedodd Tom Rogers, rheolwr Ynys Môn ar gyfer y gemau, ei fod wedi bod yn hynod ffodus i brofi diwylliant sawl ynys ar hyd y blynyddoedd.

“ ‘Da ni’n falch iawn o fyw ar yr ynys," meddai wrth Newyddion S4C.

“Ma’n rili wahanol i siarad a gweld y diwylliant wahanol. Ti’n neud ffrindia o ar draws y byd, a bydd pobl yno yn Orkney 'da ni wedi siarad efo a dod i nabod ar draws y blynyddoedd.

“Ma’n grêt cael y linc yna ar draws y byd, gyda gwledydd fel Bermuda a’r Ynysodd Cayman hefyd.

“Ma’ rhei petha rili debyg a rai petha rili gwahanol felly ‘da ni’ rili lwcus i siarad am ein diwylliant gyda athletwyr o’r gwledydd yma.

“ ‘Da ni ‘di cael cyfleoedd wych dros y blynyddoedd.”

Image
Iolo Hughes
Iolo Hughes (Rhif 153) yn cystadlu dros Ynys Môn yng Ngemau'r Ynysoedd 2023. (Llun: Cymdeithas Gemau'r Ynysoedd Ynys Môn)

'Hwb'

Mae Gemau'r Ynysoedd yn cael eu cynnal bob dwy flynedd ar gyfer ynysoedd ledled y byd.

Mae Ynysoedd Faroe, Gibraltar ac Ynys Manaw hefyd ymhlith yr ynysoedd sydd yn cymryd rhan.

Ynys Môn yw’r unig ynys o Gymru sydd yn rhan o'r gymuned ryngwladol arbennig yma.

Môn Mam Cymru oedd wedi ennill yr hawl i gynnal y gemau yn 2027, ond bu'n rhaid tynnu allan ar ddiwedd 2023 oherwydd rhesymau ariannol.

Mae’r tîm wedi bod yn rhan o’r gemau ers y rhai cyntaf yn 1985, ac eleni mi fydd 120 o athletwyr yn cymryd rhan mewn 11 o gampau.

Llwyddiant

Yn 2023 fe lwyddodd y tîm i ennill y cyfanswm uchaf erioed o fedalau, sef 18 o fedalau i gyd, gan gynnwys chwe medal aur, saith medal arian a phum medal efydd.

Fe allai'r gemau fod yn hwb i athletwyr o'r ynys fynd ymlaen i gystadlu mewn cystadlaethau mawr, meddai is-gadeirydd Cymdeithas Gemau'r Ynysoedd Ynys Môn, Alwyn Roberts.

“Does 'na ddim rheswm pam bod hyn ddim yn gallu bod yn hwb iddyn nhw gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad a’r Gemau Olympaidd," meddai.

“Byddan nhw’n cystadlu yn erbyn rhai sydd ar y big stage fel ma' nhw’n deud, ar lefal reit uchal. 

"Os ma’ nhw’n neud yn dda yn fa’ma, pam ddim?"

Ychwanegodd Tom Rogers bod cynrychioli'r ynys yn rhywbeth mae’r athletwyr yn falch iawn o allu ei wneud.

“Y peth pwysica’ ydy’r cyfle i cynrychioli’r ynys. ‘Da chi’m yn cael llawer o cyfleoedd i wneud hynna rili. Ma' hynna yn rhywbeth cyffredin ymysg yr athletwyr.

“Oherwydd bod o’n aml-gamp a bod lot yn digwydd yr un pryd, dydy lot ddim yn cael y cyfle yna yn rwla arall heblaw am falla’r Gemau Gymanwlad a’r Gemau Olympaidd."

Image
Alwyn Roberts a Tom Rogers ar eu ffordd i'r gemau ar ynys Orkney
Alwyn Roberts a Tom Rogers ar eu ffordd i'r gemau ar ynys Orkney. (Llun: Cymdeithas Gemau'r Ynysoedd Ynys Môn)

'Lwcus'

Mae rheolwr tîm pêl-droed dynion Ynys Môn, Martin Jones, yn edrych ymlaen at y gemau eleni, wedi iddo gymryd rhan yn y digwyddiad am y tro cyntaf 32 mlynedd yn ôl.

“Oni’n lwcus, geshi ‘fy mhigo i fod yn fanager o tîm yr Island Games,” meddai.

Image
Rheolwr tîm pêl-droed Ynys Môn, Martin Jones
Rheolwr tîm pêl-droed Ynys Môn, Martin Jones

“Dwi di 'neud o blynyddoedd yn ôl ond oedd rhaid i fi neud o tro ‘ma. Oedd gennai mond tair wsos i cal 18 o chwaraewyr at ei gilydd.

“Da ni’n mynd bore dydd Gwener ac mae’n para wythnos.

“Dio’m yn hawdd i fynd i’r llefydd ‘ma. Mae’n mynd i fod yn homar o journey i Orkney, mae’n siwrna 16 awr. Ac mae pawb – y chwaraewyr a’r coaches, 'da ni’n gorfod talu am bob dim.

“Ond ma ‘na squad da o 18 a da ni’n edrych ymlaen.”

Fe allai’r hyfforddwr fod yn ysbrydoliaeth i’w chwaraewyr, ar ôl i Mr Jones ennill Cwpan y Byd Pêl-droed dan Gerdded yn Sweden y penwythnos diwethaf fel rhan o dîm Cymru dros 50 oed.

“Er bo fi ‘di curo’r World Cup, a dwi’n 58, swni’n swopio hynny i weld yr hogia ‘ma ennill yr Island Games yn Orkney,” ychwanegodd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.