
‘Teimlad sbesial’: Athletwyr Môn yn gosod record newydd yng Ngemau’r Ynysoedd yn Guernsey
Mae athletwyr Ynys Môn wedi gosod record newydd yng Ngemau’r Ynysoedd yn Guernsey ar ôl i’r tîm ennill y nifer fwyaf o fedalau erioed.
Ar ddiwedd chwe diwrnod o gystadlu brwd ar draws 12 o gampau, fe lwyddodd y tîm i ennill cyfanswm o 18 o fedalau gan gynnwys chwe medal aur, saith medal arian a phum medal efydd.
Mae’r canlyniad yn golygu y bydd yn Monwysion yn gorffen yn yr wythfed safle yn nhabl y medalau – uwch ben Gibraltar, Menorca a gwledydd Bermuda ac yr Ynysoedd Cayman.
Un a lwyddodd i ymestyn ei record ryfeddol yn y gemau oedd y rhedwr, Iolo Hughes, 26 oed, a enillodd dwy fedal aur yn y rasys 1500m a 800m.
Cyn hyd yn oed hedfan am Guernsey, Hughes oedd yr athletwr fwyaf llwyddiannus i gynrychioli’r ynys yn hanes y gemau, wedi ennill dwy fedal aur a dwy fedal efydd mewn tair o’r gemau yn y gorffennol.
'Sbesial'
Ac yn ei hymddangosiad cyntaf, fe gafodd chwaer Iolo, Cari Hughes, 24 oed, gemau i’w chofio hefyd, gan ennill aur yn y ras 800m ac arian yn y 1500m.
Dywedodd Iolo: “Di Cari erioed 'di cymryd rhan yn yr Island games o’r blaen, so mae hi wedi neud yn anhygoel.
AUR | GOLD 🥇
— Ynys Môn Island Games Association (@YnysMonIGA) July 14, 2023
IOLO HUGHES HAS DONE IT AGAIN!!! It’s 800m men’s gold for him, giving him a double of that and the 1500m at this meet. Incredible!! pic.twitter.com/jthaOOdP7T
“Neshi mynd i mewn i’r ras 1500m yn teimlo’n confident ac mae o bob tro’n pleser i guro’r gold a dod efo medalau yn ôl i’r ynys. Oedd o’n deimlad sbesial rili.
“Oeddwn i’n gwybod fod y standard ychydig bach yn well yn y 800m bora ‘ma ond mi oeddwn i’n quietly confident, yn gwybod bo fi mewn good shape.
“Oeddwn i’n gwybod os fyswn i’n rhoi fy hun yn y position iawn, fysa gen i siawns a ‘naeth o weithio allan rili – neshi guro’r gold!
“Dwi erioed di gael dau gold mewn un gêm o’r blaen so mae’n new territory i fi hefyd.
“Mae o di bod mor neis i weld pawb yn supportio fi o adra ar social media.
“Mae’r gefnogaeth i bawb rili wedi bod yn amazing, i bob un sport – pêl-droed dynion a merched, badminton, seiclo – ma' pawb yn teimlo’n support.
“Mae 'na awyrgylch amazing yma.”
Llwyddiant
Hefyd yn serennu ar y trac oedd Osian Perrin, a gymerodd ran rhwng ymddangosiadau i dîm athletau GB. Fe lwyddodd i chwalu record y gemau wrth hawlio’r fedal aur yn y ras 5,000m.

Roedd Ffion Roberts hefyd yn fuddugol ar y trac, gan ennill y fedal aur yn y ras 400m ac arian yn y 200m.
Tu hwnt i’r athletau, fe enillodd David Tavernor y fedal aur yn saethu skeet unigol ar ddiwrnod olaf y gemau.
Llwyddodd tîm pêl-droed y dynion i ennill y fedal arian ar ôl pedair gêm mewn chwe diwrnod, tra bod y merched wedi hawlio’r pumed safle, sef perfformiad gorau'r tîm dramor.
Daeth medalau hefyd gan y tîm hwylio a seiclo, gyda Gwenno Hughes yn ennill efydd yn y ras yn erbyn y cloc.
'Cefnogaeth'
Wrth i Fôn baratoi i gynnal y gemau yn 2027 – mae’r chwe diwrnod diwethaf wedi gosod y safon, o ran perfformiad ond hefyd o ran y trefniant, yn ôl Barry Edwards, cydlynydd tîm athletau Ynys Môn.
“Yn yr athletau yn unig ‘da ni ‘di gael 11 medal, ac efo’r saethu, hwylio a champau eraill, ‘da ni wedi cael y medal haul gorau erioed ar ran yr Ynys,” meddai.
“Ma’ hwnna just yn bositif a gobeithio bydd hynny’n ysbrydoli pobol a phlant ifanc yn ôl yn Ynys Môn.
“Da ni ‘di gweld y cyfleusterau yma yn Guernsey a ‘da ni isho sicrhau fod y cyfleusterau a chyfleodd a’r gefnogaeth gan bobl yr ynys i sicrhau bod ni’n rhoi Ynys Môn ar y map a chael gemau hynod o lwyddiannus yn 2027.”
Lluniau: Cymdeithas Gemau'r Ynysoedd Ynys Môn